Llyfr Exodus 27:21
Ym mhabell y cyfarfod, o’r tu allan i’r wahanlen, yr hon fydd o flaen y dystiolaeth, y trefna Aaron a’i feibion hwnnw, o’r hwyr hyd y bore, ger bron yr Arglwydd: deddf dragywyddol fydd, trwy eu hoesoedd, gan feibion Israel.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 1:5A Duw a alwodd y goleuni yn Ddydd, a’r tywyllwch a alwodd efe yn Nos: a’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y dydd cyntaf.
Exodus 12:14A’r dydd hwn fydd yn goffadwriaeth i chwi; a chwi a’i cedwch ef yn wyl i’r Arglwydd trwy eich cenhedlaethau: cedwch ef yn wyl trwy ddeddf dragywyddol.
Exodus 25:16A dod yn yr arch y dystiolaeth a roddaf i ti.
Exodus 26:31¶ A gwna wahanlen o sidan glas, porphor, ac ysgarlad, ac o lïan main cyfrodedd: â cherubiaid o waith cywraint y gwnei hi.
Exodus 29:9A gwregysa hwynt â gwregysau, sef Aaron a’i feibion, a gwisg hwynt â chapiau: a bydd yr offeiriadaeth iddynt yn ddeddf dragywyddol: a thi a gyssegri Aaron a’i feibion.
Exodus 29:42Yn boeth-offrwm gwastadol trwy eich oesoedd, wrth ddrws pabell y cyfarfod, ger bron yr Arglwydd; lle y cyfarfyddaf â chwi, i lefaru wrthyt yno.