Llyfr Exodus 29:9
A gwregysa hwynt â gwregysau, sef Aaron a’i feibion, a gwisg hwynt â chapiau: a bydd yr offeiriadaeth iddynt yn ddeddf dragywyddol: a thi a gyssegri Aaron a’i feibion.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
8A dwg ei feibion ef, a gwisg beisiau am danynt.
Cross References
Exodus 27:21Ym mhabell y cyfarfod, o’r tu allan i’r wahanlen, yr hon fydd o flaen y dystiolaeth, y trefna Aaron a’i feibion hwnnw, o’r hwyr hyd y bore, ger bron yr Arglwydd: deddf dragywyddol fydd, trwy eu hoesoedd, gan feibion Israel.
Exodus 28:40¶ I feibion Aaron hefyd y gwnei beisiau, a gwna iddynt wregysau; gwna hefyd iddynt gapiau, er gogoniant a harddwch.
Exodus 40:15Ac enneinia hwynt, megis yr enneiniaist eu tad hwynt, i offeiriadu i mi: felly bydd eu henneiniad iddynt yn offeiriadaeth dragywyddol, trwy eu cenhedlaethau.
Leviticus 8:33Ac nac ewch dros saith niwrnod allan o ddrws pabell y cyfarfod, hyd y dydd y cyflawner dyddiau eich cyssegriadau: o herwydd saith niwrnod y bydd efe yn eich cyssegru chwi.
Numbers 16:10Canys efe a’th nesaodd di, a’th holl frodyr, meibion Lefi, gyd â thi: ac a geisiwch chwi yr offeiriadaeth hefyd?
Numbers 16:40Yn goffadwriaeth i feibion Israel; fel na nesâo gwr dïeithr, yr hwn ni byddo o had Aaron, i losgi arogl-darth ger bron yr Arglwydd; ac na byddo fel Corah a’i gynnulleidfa: megis y llefarasai yr Arglwydd trwy law Moses wrtho ef.