Llyfr Exodus 29:21
A chymmer o’r gwaed a fyddo ar yr allor, ac o olew yr enneiniad, a thaenella ar Aaron, ac ar ei wisgoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wisgoedd ei feibion gyd âg ef: felly sanctaidd fydd efe a’i wisgoedd, ei feibion hefyd, a gwisgoedd ei feibion gyd âg ef.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 29:7Yna y cymmeri olew yr enneiniad, ac y tywellti ar ei ben ef, ac yr enneini ef.
Exodus 30:30Enneinia hefyd Aaron a’i feibion, a chyssegra hwynt, i offeiriadu i mi.
Leviticus 8:30A chymmerodd Moses o olew yr enneiniad, ac o’r gwaed oedd ar yr allor, ac a’i taenellodd ar Aaron, ar ei wisgoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wisgoedd ei feibion ynghyd âg ef: ac efe a gyssegrodd Aaron, a’i wisgoedd, a’i feibion hefyd, a gwisgoedd ei feibion ynghyd âg ef.
Leviticus 14:29A’r rhan arall o’r olew fyddo ar gledr llaw yr offeiriad, a rydd efe ar ben yr hwn a lanhêir, i wneuthur cymmod drosto ger bron yr Arglwydd.
Isaiah 11:2Ac ysbryd yr ARGLWYDD a orffwys arno ef; ysbryd doethineb a deall, ysbryd cyngor a chadernid, ysbryd gwybodaeth ac ofn yr ARGLWYDD; º
John 17:19Ac er eu mwyn hwy yr wyf yn fy sancteiddio fy hun, fel y byddont hwythau wedi, eu sancteiddio yn y gwirionedd.