Llyfr Exodus 29:25
A chymmer hwynt o’u dwylaw, a llosg ar yr allor yn boethoffrwm, yn arogl peraidd ger bron yr Arglwydd: aberth tanllyd i’r Arglwydd yw.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 29:41A’r oen arall a offrymmi di yn y cyfnos, ac a wnei iddo yr un modd ag i fwyd-offrwm y bore, ac i’w ddïod-offrwm, i fod yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd:
Leviticus 1:13Ond golched y perfedd a’r traed mewn dwfr: a dyged yr offeiriad y cwbl, a llosged ar yr allor. Hwn sydd boeth-offrwm, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
Leviticus 2:9A choded yr offeiriad ei goffadwriaeth o’r bwyd-offrwm, a llosged ef ar yr allor; yn offrwm tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
Leviticus 3:3Ac offrymmed o’r aberth hedd aberth tanllyd i’r Arglwydd; sef y weren fol, a’r holl wer a fydd ar y perfedd.
Leviticus 3:9Ac offrymmed o’r aberth hedd yn aberth tanllyd i’r Arglwydd; ei weren, a’r gloren i gyd: torred hi ymaith wrth asgwrn y cefn, ynghyd â’r weren fol, a’r holl wer a fyddo ar y perfedd;
Leviticus 3:14Ac offrymmed o hynny ei offrwm o aberth tanllyd i’r Arglwydd; sef y weren fol, a’r holl wer a fyddo ar y perfedd;