Llyfr Lefiticus 1:13
Ond golched y perfedd a’r traed mewn dwfr: a dyged yr offeiriad y cwbl, a llosged ar yr allor. Hwn sydd boeth-offrwm, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 1:9Ond ei berfedd a’i draed a ylch efe mewn dwfr: a’r offeiriad a lysg y cwbl ar yr allor, yn boeth-offrwm, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
Leviticus 3:5A llosged meibion Aaron hynny ar yr allor, ynghyd â’r offrwm poeth sydd ar y coed a fyddant ar y tân, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
Leviticus 8:21Ond y perfedd a’r traed a olchodd efe mewn dwfr; a llosgodd Moses, yr hwrdd oll ar yr allor. Poeth-offrwm yw hwn, i fod yn arogl peraidd ac yn aberth tanllyd i’r Arglwydd; fel y gorchymynnodd yr Arglwydd i Moses.
Numbers 28:8Yr ail oen a offrymmi yn yr hwyr: megis bwyd-offrwrn y bore, a’i ddïod-offrwm, yr offrymmi ef, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
Ezekiel 40:38A'r celloedd a'u drysau oedd wrth byst y pyrth, lle y golchent y poethoffrwm.