Llyfr Exodus 33:1
Moses yn deisyfu cael gweled gogoniant Duw. A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Cerdda, dos i fynu oddi yma, ti a’r bobl a ddygaist i fynu o wlad yr Aipht, i’r wlad am yr hon y tyngais wrth Abraham, Isaac, a Jacob, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddaf hi.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 12:7A’r Arglwydd a ymddangosodd i Abram, ac a ddywedodd, I’th had di y rhoddaf y tir hwn: yntau a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd, yr hwn a ymddangosasai iddo.
Genesis 15:18Yn y dydd hwnnw y gwnaeth yr Arglwydd gyfammod âg Abram, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddais y wlad hon, o afon yr Aipht hyd yr afon fawr, afon Euphrates:
Genesis 26:3Ymdeithia yn y wlad hon, a mi a fyddaf gyd â thi, ac a’th fendithiaf; o herwydd i ti ac i’th had y rhoddaf yr holl wledydd hyn, a mi a gyflawnaf fy llw a dyngais wrth Abraham dy dad di.
Genesis 50:24A dywedodd Joseph wrth ei frodyr, Myfi sydd yn marw: a Duw gan ymweled a ymwêl â chwi, ac a’ch dwg chwi i fynu o’r wlad hon, i’r wlad a dyngodd efe i Abraham, i Isaac, ac i Jacob.
Exodus 32:1ac yn gweddïo dros y bobl. Pan welodd y bobl fod Moses yn oedi dyfod i waered o’r mynydd; yna yr ymgasglodd y bobl at Aaron, ac y dywedasant wrtho, Cyfod, gwna i ni dduwiau i fyned o’n blaen: canys y Moses hwn, y gwr a’n dug ni i fynu o wlad yr Aipht, ni wyddom beth a ddaeth o hono.
Exodus 32:13Cofia Abraham, Isaac, ac Israel, dy weision, y rhai y tyngaist wrthynt i ti dy hun, ac y dywedaist wrthynt. Mi a amlhâf eich had chwi fel sêr y nefoedd; a’r holl wlad yma yr hon a ddywedais, a roddaf i’ch had chwi, a hwy a’i hetifeddant byth.