Llyfr Exodus 33:2
A mi a anfonaf angel o’th flaen di, ac a yrraf allan y Canaanead, yr Amoriad, a’r Hethiad, y Phereziad, yr Hefiad, a’r Jebusiad:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 24:7¶ Arglwydd Dduw y nefoedd, yr hwn a’m cymmerodd i o dŷ fy nhad, ac o wlad fy nghenedl, yr hwn hefyd a ymddiddanodd â mi, ac a dyngodd wrthyf, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddaf y tir hwn; efe a enfyn ei angel o’th flaen di, a thi a gymmeri wraig i’m mab oddi yno.
Exodus 3:17A dywedais, Mi a’ch dygaf chwi i fynu o adfyd yr Aipht, i wlad y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Phereziaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid; i wlad yn llifeirio o laeth a mêl.
Exodus 23:27Mi a anfonaf fy arswyd o’th flaen, ac a ddifethaf yr holl bobl y deui attynt, ac a wnaf i’th holl elynion droi eu gwarrau attat.
Exodus 34:11Cadw yr hyn a orchymynais i ti heddyw: wele, mi a yrraf allan o’th flaen di yr Amoriad, a’r Canaanead, a’r Hethiad, a’r Phereziad, yr Hefiad hefyd, a’r Jebusiad.
Joshua 24:11A chwi a aethoch dros yr Iorddonen, ac a ddaethoch i Jericho: a gwŷr Jericho a ymladdodd i’ch erbyn, yr Amoriaid, a’r Phereziaid, a’r Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Girgasiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid; a mi a’u rhoddais hwynt yn eich llaw chwi.
1 Chronicles 1:14Y Jebusiad hefyd, a'r Amoriad, a'r Girgasiad,