Llyfr Exodus 33:14
Yntau a ddywedodd, Fy wyneb a gaiff fyned gyd â thi, a rhoddaf orphwysdra i ti.
Beibl (1620)
In The King James Version
And he said, My presence shall go with thee, and I will give thee rest.
In Context
15Ac efe a ddywedodd wrtho, Onid â dy wyneb gyd â ni, nac arwain ni i fynu oddi yma.
Cross References
Exodus 13:21A’r Arglwydd oedd yn myned o’u blaen hwynt y dydd mewn colofn o niwl, i’w harwain ar y ffordd; a’r nos mewn colofn o dân, i oleuo iddynt; fel y gallent fyned ddydd a nos.
Joshua 1:5Ni saif neb o’th flaen di holl ddyddiau dy einioes: megis y bûm gyd â Moses, y byddaf gyd â thithau: ni’th adawaf, ac ni’th wrthodaf.
Joshua 22:4Ac yn awr yr Arglwydd eich Duw a roddes esmwythdra i’ch brodyr, fel y llefarodd wrthynt: yn awr gan hynny trowch, ac ewch rhagoch i’ch pebyll, i wlad eich meddiant, yr hon a roddodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi, o’r tu hwnt i’r Iorddonen.
Job 34:29Pan esmwythao efe, pwy a anesmwytha? a phan guddio efe ei wyneb, pwy a edrych arno? pa un bynnag ai yn erbyn cenedl, ai yn erbyn dyn yn unig?
Isaiah 63:9Yn eu holl gystudd hwynt efe a gystuddiwyd, ac angel ei gynddrychiol-deb a’u hachubodd hwynt; yn ei gariad ac yn ei drugaredd y gwaredodd efe hwynt: efe a’u dygodd hwynt, ac a’u harweiniodd yr holl ddyddiau gynt. º
Daniel 12:13Dos dithau hyd y diwedd: canys gorffwysi, a sefi yn dy ran yn niwedd y dyddiau.