Llyfr Josua 22:4
Ac yn awr yr Arglwydd eich Duw a roddes esmwythdra i’ch brodyr, fel y llefarodd wrthynt: yn awr gan hynny trowch, ac ewch rhagoch i’ch pebyll, i wlad eich meddiant, yr hon a roddodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi, o’r tu hwnt i’r Iorddonen.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Numbers 32:33A rhoddodd Moses iddynt, sef i feibion Gad, ac i feibion Reuben, ac i hanner llwyth Manasseh mab Joseph, frenhiniaeth Sehon brenhin yr Amoriaid, a brenhiniaeth Og brenhin Basan, y wlad a’i dinasoedd ar hyd y terfynau, sef dinasoedd y wlad oddi amgylch.
Deuteronomy 3:20Hyd pan wnelo yr Arglwydd i’ch brodyr orphwyso fel chwithau, a meddiannu o honynt hwythau y wlad y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei rhoddi iddynt dros yr Iorddonen: yna dychwelwch bob un i’w etifeddiaeth a roddais i chwi.
Deuteronomy 29:8Ac a ddygasom eu tir hwynt, ac a’i rhoisom yn etifeddiaeth i’r Reubeniaid, ac i’r Gadiaid, ac i hanner llwyth Manasseh.
Joshua 13:8Gyd â’r rhai y derbyniodd y Reubeniaid a’r Gadiaid eu hetifeddiaeth, yr hon a roddodd Moses iddynt hwy, o’r tu hwnt i’r Iorddonen, tu a’r dwyrain, fel y rhoddes Moses gwas yr Arglwydd iddynt;
Joshua 21:43¶ A’r Arglwydd a roddodd i Israel yr holl wlad a dyngodd efe ar ei rhoddi wrth eu tadau hwynt: a hwy a’i meddiannasant hi, ac a wladychasant ynddi.
1 Chronicles 22:18Onid yw yr ARGLWYDD eich Duw gyda chwi? ac oni roddes efe lonyddwch i chwi oddi amgylch? canys rhoddes yn fy llaw i drigolion y tir; a’r tir a ddaros-tyngwyd o flaen yr ARGLWYDD, ac o flaen ei bobl ef. º