Llyfr Exodus 33:3
I wlad yn llifeirio o laeth â mel: o herwydd nid âf fi i fynu yn dy blith; oblegid pobl wàr-galed wyt: rhag i mi dy ddifa ar y ffordd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 3:17A dywedais, Mi a’ch dygaf chwi i fynu o adfyd yr Aipht, i wlad y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Phereziaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid; i wlad yn llifeirio o laeth a mêl.
Exodus 23:21Gwylia rhagddo, a gwrando ar ei lais ef; na chyffroa ef: canys ni ddïoddef eich anwiredd: oblegid y mae fy enw ynddo ef.
Exodus 32:14Ac edifarhaodd ar yr Arglwydd am y drwg a ddywedasai efe y gwnai i’w bobl.
Exodus 34:9Ac a ddywedodd, Os cefais yn awr ffafr yn dy olwg, O Arglwydd, eled fy Arglwydd, attolwg, yn ein plith ni, (canys pobl wàr-galed yw,) a maddeu ein hanwiredd, a’n pechod, a chymmer ni yn etifeddiaeth i ti.
Numbers 13:27A mynegasant iddo, a dywedasant, Daethom i’r tir lle yr anfonaist ni; ac yn ddïau llifeirio y mae o laeth a mêl: a dyma ei ffrwyth ef.
Numbers 14:12Tarawaf hwynt â haint, a gwasgaraf hwy, a gwnaf di yn genhedlaeth fwy, a chryfach na hwynt-hwy.