Llyfr Exodus 3:17
A dywedais, Mi a’ch dygaf chwi i fynu o adfyd yr Aipht, i wlad y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Phereziaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid; i wlad yn llifeirio o laeth a mêl.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 15:21Yr Amoriaid hefyd, a’r Canaaneaid, a’r Girgasiaid, a’r Jebusiaid.
Genesis 50:24A dywedodd Joseph wrth ei frodyr, Myfi sydd yn marw: a Duw gan ymweled a ymwêl â chwi, ac a’ch dwg chwi i fynu o’r wlad hon, i’r wlad a dyngodd efe i Abraham, i Isaac, ac i Jacob.
Exodus 3:8A mi a ddisgynnais i’w gwaredu hwy o law yr Aiphtiaid, ac i’w dwyn o’r wlad honno i wlad dda a helaeth, i wlad yn llifeirio o laeth a mêl; i le y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Phereziaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid.
Exodus 33:3I wlad yn llifeirio o laeth â mel: o herwydd nid âf fi i fynu yn dy blith; oblegid pobl wàr-galed wyt: rhag i mi dy ddifa ar y ffordd.
Numbers 13:27A mynegasant iddo, a dywedasant, Daethom i’r tir lle yr anfonaist ni; ac yn ddïau llifeirio y mae o laeth a mêl: a dyma ei ffrwyth ef.
Joshua 5:6Canys deugain mlynedd y rhodiasai meibion Israel yn yr anialwch, nes darfod yr holl bobl o’r rhyfelwyr a ddaethent o’r Aipht, y rhai ni wrandawsent ar lef yr Arglwydd: y rhai y tyngasai yr Arglwydd wrthynt, na ddangosai efe iddynt y wlad a dyngasai yr Arglwydd wrth eu tadau y rhoddai efe i ni; sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.