Llyfr Exodus 34:28
Ac efe a fu yno gyd â’r Arglwydd ddeugain niwrnod a deugain nos, ni fwyttaodd fara, ac nid yfodd ddwfr: ac efe a ysgrifenodd ar y llechau eiriau’r cyfammod, sef y deg gair.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 31:18¶ Ac efe a roddodd i Moses, wedi iddo orphen llefaru wrtho ym mynydd Sinai, ddwy lech y dystiolaeth; sef llechau o gerrig, wedi eu hysgrifenu â bys Duw.
Exodus 34:1Ei wyneb yn disgleirio; ac yntau yn rhoddi llèn gudd arno. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Nâdd i ti ddwy o lechau cerrig, fel y rhai cyntaf: a mi a ysgrifenaf ar y llechau y geiriau oedd ar y llechau cyntaf, y rhai a dorraist.
Deuteronomy 9:9Pan euthum i fynu i’r mynydd i gymmeryd y llechau meini, sef llechau y cyfammod, yr hwn a wnaeth yr Arglwydd â chwi; yna yr arhoais yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos: bara ni fwytteais, a dwfr nid yfais.
Deuteronomy 9:25A mi a syrthiais ger bron yr Arglwydd ddeugain niwrnod a deugain nos, fel y syrthiaswn o’r blaen; am ddywedyd o’r Arglwydd y difethai chwi.
Deuteronomy 10:5Yna y dychwelais, ac y deuthum i waered o’r mynydd, ac a osodais y llechau yn yr arch, yr hon a wnaethwn, ac yno y maent; megis y gorchymynodd yr Arglwydd i mi.