The Bible Software
Llyfr Exodus · Beibl (1620)

Llyfr Exodus 35

1Galw Bezaleel ac Aholïab i’r gwaith. Casglodd Moses hefyd holl gynnulleidfa meibion Israel, a dywedodd wrthynt, Dyma y pethau a orchymynod yr Arglwydd eu gwneuthur.

2Chwe diwrnod y gwneir gwaith; ar y seithfed dydd y bydd i chwi ddydd sanctaidd, Sabbath gorphwys i’r Arglwydd: llwyr-rodder i farwolaeth pwy bynnag a wnelo waith arno.

3Na chynneuwch dân yn eich holl anneddau ar y dydd Sabbath.

4¶ A Moses a lefarodd wrth holl gynnulleidfa meibion Israel, gan ddywedyd, Dyma y peth a orchymynodd yr Arglwydd, gan ddywedyd,

5Cymmerwch o’ch plith offrwrn yr Arglwydd: pob un ewyllysgar ei galon dyged hyn yn offrwm i’r Arglwydd; aur, ac arian, a phres,

6A sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main, a blew geifr,

7A chrwyn hyrddod wedi eu lliwo yn gochion, a chrwyn daearfoch, a choed Sittim,

8Ac olew i’r goleuni, a llysiau i olew yr ennaint, ac i’r arogl-darth peraidd,

9A meini onix, a meini i’w gosod yn yr ephod, ac yn y ddwyfronneg.

10A phob doeth ei galon yn eich plith, deuant a gweithiant yr hyn oll a orchymynodd yr Arglwydd;

11Y tabernacl, ei babell-lèn a’i dô, ei fachau a’i ystyllod, ei farrau, ei golofnau, a’i forteisiau,

12Yr arch, a’i throsolion, y drugareddfa, a’r wahanlen, yr hon a’i gorchuddia,

13Y bwrdd, a’i drosolion, a’i holl lestri, a’r bara dangos,

14A chanhwyllbren y goleuni, a’i offer; a’i lampau, ac olew y goleuni,

15Ac allor yr arogl-darth, a’i throsolion ac olew yr enneiniad, a’r arogl-darth peraidd, a chaeadlen y drws i fyned i’r tabernacl,

16Allor y poeth-offrwm a’i halch bres, a’i throsolion, a’i holl lestri, y noe a’i throed,

17Llenni’r cynteddfa, ei golofnau, a’i forteisiau, caeadlen porth y cynteddfa,

18Hoelion y tabernacl, a hoelion y cynteddfa, a’u rhaffau hwynt,

19A gwisgoedd y weinidogaeth i weini yn y cyssegr, sanctaidd wisgoedd Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef, i offeiriadu ynddynt.

20¶ A holl gynnulleidfa meibion Israel a aethant allan oddi ger bron Moses.

21A phob un yr hwn y cynhyrfodd ei galon ef, a phob un yr hwn y gwnaeth ei yspryd ef yn ewyllysgar, a ddaethant, ac a ddygasant offrwm i’r Arglwydd, tu ag at waith pabell y cyfarfod, a thu ag at ei holl wasanaeth hi, a thu ag at y gwisgoedd sanctaidd.

22A daethant yn wŷr ac yn wragedd; pob un a’r a oedd ewyllysgar ei galon a ddygasant freichledau, a chlust-dlysau, a modrwyau, a chadwynau, pob math ar dlysau aur; a phob gwr a’r a offrymmodd offrwm, a offrymmodd aur i’r Arglwydd.

23A phob un a’r y caed gyd âg ef sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main, a blew geifr, a chrwyn hyrddod wedi eu lliwo yn gochion, a chrwyn daearfoch, a’u dygasant.

24Pob un a’r a offrymmodd offrwm o arian a phres, a ddygasant offrwm i’r Arglwydd: a phob un a’r y caed gyd âg ef goed Sittim i ddim o waith y gwasanaeth a’ i dygasant.

25A phob gwraig ddoeth o galon a nyddodd â’i dwylo; ac a ddygasant yr edafedd sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main.

26A’r holl wragedd y rhai y cynhyrfodd eu calonnau hwynt mewn cyfarwyddyd, a nyddasant flew geifr.

27A’r penaethiaid a ddygasant feini onix, a meini i’w gosod ar yr ephod, ac ar y ddwyfronneg;

28A llysiau, ac olew i’r goleuni, ac i olew yr ennaint, ac i’r arogl-darth peraidd.

29Holl blant Israel, yn wŷr ac yn wragedd, y rhai a glywent ar eu calon offrymmu tu ag at yr holl waith a orchymynasai’r Arglwydd trwy law Moses ei wneuthur, a ddygasant i’r Arglwydd offrwm ewyllysgar.

30¶ A dywedodd Moses wrth feibion Israel, Gwelwch, galwodd yr Arglwydd erbyn ei enw, Bezaleel, fab Uri, fab Hur, o lwyth Judah:

31Ac a’i llanwodd ef âg yspryd Duw, mewn cyfarwyddyd, mewn deall, ac mewn gwybodaeth, ac mewn pob gwaith;

32I ddychymmygu cywreinrwydd, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pres,

33Ac mewn cyfarwyddyd i osod meini, ac mewn saernïaeth pren, i weithio ym mhob gwaith cywraint.

34Ac efe a roddodd yn ei galon ef ddysgu eraill; efe, ac Aholïab, mab Achisamach, o lwyth Dan.

35Efe a’u llanwodd hwynt â doethineb calon, i wneuthur pob gwaith saer a chywreinwaith, a gwaith edau a nodwydd, mewn sidan glas, ac mewn porphor, ac mewn ysgarlad, ac mewn llïan main, ac i wau, gan wneuthur pob gwaith, a dychymmygu cywreinrwydd.

← Llyfr Exodus 34Read In The App, Free →Llyfr Exodus 36 →

Study Llyfr Exodus 35

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940