The Bible Software
Llyfr Exodus · Beibl (1620)

Llyfr Exodus 39

1Moses yn golygu y cwbl, ac yn eu bendithio. Ac o’r sidan glas, a’r porphor, a’r ysgarlad, y gwnaethant wisgoedd gweinidogaeth, i weini yn y cyssegr: gwnaethant y gwisgoedd sanctaidd i Aaron; fel y gorchymynasai’r Arglwydd wrth Moses.

2Ac efe a wnaeth yr effod o aur, sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main cyfrodedd.

3A gyrrasant yr aur yn ddalennau teneuon, ac a’i torrasant yn edafedd, i weithio yn y sidan glas, ac yn y porphor, ac yn yr ysgarlad, ac yn y llïan main, yn waith cywraint.

4Ysgwyddau a wnaethant iddi yn cydio: wrth ei dau gwrr y cydiwyd hi.

5A gwregys cywraint ei ephod ef, yr hwn oedd arni, ydoedd o’r un, yn un-waith â hi; o aur, sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main cyfrodedd: megis y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.

6¶ A hwy a weithiasant feini onix wedi eu gosod mewn boglynau aur, wedi eu naddu â naddiadau sêl, âg enwau meibion Israel ynddynt.

7A gosododd hwynt ar ysgwyddau yr ephod, yn feini coffadwriaeth i feibion Israel; megis y gorchymynodd yr Arglwydd wrth Moses.

8¶ Efe a wnaeth hefyd y ddwyfronneg o waith cywraint, ar waith yr ephod; o aur, sidan glas, porphor hefyd, ac ysgarlad, a llïan main cyfrodedd.

9Pedeirongl ydoedd; yn ddau ddyblyg y gwnaethant y ddwyfronneg: o rychwant ei hŷd, a rhychwant ei lled, yn ddau ddyblyg.

10A gosodasant ynddi bedair rhes o feini: rhes o sardius, tophaz, a smaragdus, ydoedd y rhes gyntaf.

11A’r ail res oedd, carbuncl, saphir, ac adamant.

12A’r drydedd res ydoedd, lygur, acat, ac amethyst.

13A’r bedwaredd res ydoedd, beryl, onix, a jasbis; wedi eu hamgylchu mewn boglynau aur yn eu lleoedd.

14A’r meini oedd yn ol enwau meibion Israel, yn ddeuddeg, yn ol eu henwau hwynt; pob un wrth ei enw oeddynt, o naddiadau sêl, yn ol y deuddeg llwyth.

15A hwy a wnaethant ar y ddwyfronneg gadwynau ar y cyrrau, yn blethwaith o aur pur.

16A gwnaethant ddau foglyn aur, a dwy fodrwy o aur; ac a roddasant y ddwy fodrwy ar ddau gwrr y ddwyfronneg.

17A rhoddasant y ddwy gadwyn blethedig o aur trwy y ddwy fodrwy ar gyrrau y ddwyfronneg.

18A deupen y ddwy gadwyn blethedig a roddasant y’nglŷn yn y ddau foglyn; ac a’u gosodasant ar ysgwyddau yr ephod, o’r tu blaen.

19Gwnaethant hefyd ddwy fodrwy o aur, ac a’u gosodasant ar ddau ben y ddwyfronneg, ar yr ymyl sydd ar ystlys yr ephod, o’r tu mewn.

20A hwy a wnaethant ddwy fodrwy aur, ac a’u gosodasant ar ddau ystlys yr ephod, oddi tanodd tu a’i thu blaen, ar gyfer ei chydiad, oddi ar wregys yr ephod.

21Rhwymasant hefyd y ddwyfronneg, erbyn ei modrwyau, wrth fodrwyau yr ephod, â llinyn o sidan glas, i fod oddi ar wregys yr ephod, fel na ddattodid y ddwyfronneg oddi wrth yr ephod, megis y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.

22¶ Ac efe a wnaeth fantell yr ephod i gyd o sidan glas, yn wauadwaith.

23A thwll y fantell oedd yn ei chanol, fel twll llurig, a gwrym o amgylch y twll, rhag ei rhwygo.

24A gwnaethant ar odrau y fantell bomgranadau, o sidan glas, porphor, ac ysgarlad, a llïan cyfrodedd.

25Gwnaethant hefyd glych o aur pur, ac a roddasant y clych rhwng y pomgranadau, ar odre y fantell, o amgylch, ym mysg y pomgranadau,

26Cloch a phomgranad, a chloch a phomgranad, ar odre y fantell o amgylch, i weini ynddynt: megis y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.

27¶ A hwy a wnaethant beisiau o lïan main, o wauadwaith, i Aaron ac i’w feibion.

28A meitr o lïan main, a chapiau hardd o lïan main, a llodrau llïan o lïan main cyfrodedd,

29A gwregys o lïan main cyfrodedd, ac o sidan glas, porphor, ac ysgarlad, o waith edau a nodwydd; fel y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.

30¶ Gwnaethant hefyd dalaith y goron sanctaidd o aur pur, ac a ysgrifenasant arni ysgrifen, fel naddiad sêl: Sancteiddrwydd i’r Arglwydd.

31A rhoddasant wrthi linyn o sidan glas, i’w dal hi i fynu ar y meitr, fel y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.

32¶ Felly y gorphennwyd holl waith y tabernacl, sef pabell y cyfarfod: a meibion Israel a wnaethant yn ol yr hyn oll a orchymynasai yr Arglwydd wrth Moses felly y gwnaethant.

33¶ Dygasant hefyd y tabernacl at Moses, y babell a’i holl ddodrefn, ei bachau, ei hystyllod, ei barrau, a’i cholofnau, a’i mor­teisiau,

34A’r tô o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a’r tô o grwyn daearfoch, a’r llèn wahan yr hon oedd yn gor­chuddio;

35Arch y dys­tiolaeth, a’i thro­solion, a’r druga­reddfa;

36Y bwrdd hefyd, a’i holl lestri, a’r bara dangos;

37Y canhwyll­bren pur, a’i lampau, a’r lampau i’w gosod mewn trefn, ei holl lestri, ac olew i’r goleuni;

38A’r allor aur, ac olew yr enneiniad, a’r arogl-darth llysieuog, a chaeadlen drws y babell;

39Yr allor bres, a’r alch bres yr hon oedd iddi, ei thro­solion, a’i holl lestri; y noe a’i throed;

40Llenni y cynteddfa, ei golofnau, a’i for­teisiau, a chaeadlen porth y cynteddfa, ei rhaffau, a’i hoelion, a holl ddodrefn gwasan­aeth y tabernacl, sef pabell cyfarfod;

41Gwisgoedd y weinidogaeth i weini yn y cyssegr, sanctaidd wisgoedd Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef i offeir­iadu.

42Yn ol yr hyn oll a orchymynasai yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaeth meibion Israel yr holl waith.

43A Moses a edrychodd ar yr holl waith; ac wele, hwy a’i gwnaeth­ant megis y gorchy­mynasai yr Arglwydd, felly y gwnaeth­ent: a Moses a’u bendith­iodd hwynt.

← Llyfr Exodus 38Read In The App, Free →Llyfr Exodus 40 →

Study Llyfr Exodus 39

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940