The Bible Software
Llyfr Exodus · Beibl (1620)

Llyfr Exodus 4

1Y bobl yn credu iddynt. A Moses a attebodd, ac a ddywedodd, Etto, wele, ni chredant i mi, ac ni wrandawant ar fy llais; ond dywedant, Nid ymddangosodd yr Arglwydd i ti.

2A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Beth sydd yn dy law? Dywedodd yntau, Gwïalen.

3Ac efe a ddywedodd, Tafl hi ar y ddaear. Ac efe a’i taflodd hi ar y ddaear; a hi a aeth yn sarph: a Moses a giliodd rhagddi.

4Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law, ac ymafael yn ei llosgwrn hi. Ac efe a estynnodd ei law, ac a ymaflodd ynddi; a hi a aeth yn wïalen yn ei law ef:

5Fel y credant ymddangos i ti o Arglwydd Dduw eu tadau, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob.

6¶ A dywedodd yr Arglwydd wrtho drachefn, Dod yn awr dy law yn dy fynwes. Ac efe a roddodd ei law yn ei fynwes: a phan dynnodd efe hi allan, wele ei law ef yn wahan-glwyfol fel yr eira.

7Ac efe a ddywedodd, Dod eilwaith dy law yn dy fynwes. Ac efe a roddodd eilwaith ei law yn ei fynwes, ac a’i tynnodd hi allan o’i fynwes; ac wele, hi a droisai fel ei gnawd arall ef.

8A bydd, oni chredant i ti, ac oni wrandawant ar lais yr arwydd cyntaf, etto y credant i lais yr ail arwydd.

9A bydd, oni chredant hefyd i’r ddau arwydd hyn, ac oni wrandawant ar dy lais, ti a gymmeri o ddwfr yr afon ac a’i tywellti ar y sychdir; a bydd y dyfroedd a gymmerech o’r afon yn waed ar y tir sych.

10¶ A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd, O fy Arglwydd, ni bûm wr ymadroddus, na chyn hyn, nac er pan leferaist wrth dy was; eithr safndrwm a thafotrwm ydwyf.

11A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Pwy a wnaeth enau i ddyn? neu pwy a ordeiniodd fudan, neu fyddar, neu y neb sydd yn gweled, neu y dall? onid myfi yr Arglwydd?

12Am hynny dos yn awr; a mi a fyddaf gyd â’th enau, ac a ddysgaf i ti yr hyn a ddywedych.

13Dywedodd yntau, O fy Arglwydd, danfon, attolwg, gyd â’ r hwn a ddanfonych.

14Ac ennynodd digofaint yr Arglwydd yn erbyn Moses; ac efe a ddywedodd, Onid dy frawd yw Aaron y Lefiad? mi a wn y medr efe lefaru yn groyw: ac wele efe yn dyfod allan i’th gyfarfod; a phan y’th welo, efe a lawenycha yn ei galon.

15Llefara dithau wrtho ef, a gosod y geiriau hyn yn ei enau: a minnau a fyddaf gyd â’th enau di, a chyd â’i enau yntau, a dysgaf i chwi yr hyn a wneloch.

16A llefared yntau trosot ti wrth y bobl: ac felly y bydd efe yn lle genau i ti, a thithau a fyddi yn lle Duw iddo yntau.

17Cymmer hefyd y wïalen hon yn dy law, yr hon y gwnei wyrthiau â hi.

18¶ A Moses a aeth, ac a ddychwelodd at Jethro ei chwegrwn, ac a ddywedodd wrtho, Gâd i mi fyned, attolwg, a dychwelyd at fy mrodyr sydd yn yr Aipht, a gweled a ydynt etto yn fyw. A dywedodd Jethro wrth Moses, Dos mewn heddwch.

19A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses ym Midian, Dos, dychwel i’r Aipht; o herwydd bu feirw yr holl wŷr oedd yn ceisio dy einioes.

20A Moses a gymmerth ei wraig, a’i feibion, ac a’u gosododd hwynt ar asyn, ac a ddychwelodd i wlad yr Aipht: cymmerodd Moses hefyd wïalen Duw yn ei law.

21A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pan elych i ddychwelyd i’r Aipht, gwel i ti wneuthur ger bron Pharaoh yr holl ryfeddodau a roddais yn dy law: ond mi a galedaf ei galon ef, fel na ollyngo ymaith y bobl.

22A dywed wrth Pharaoh, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Fy mab i, sef fy nghyntaf-anedig, yw Israel.

23A dywedais wrthyt, Gollwng fy mab, fel y’m gwasanaetho: ond os gwrthodi ei ollwng ef, wele, mi a laddaf dy fab di, sef dy gyntaf-anedig.

24¶ A bu, ar y ffordd yn y lletty, gyfarfod o’r Arglwydd âg ef, a cheisio ei ladd ef.

25Ond Sephorah a gymmerth gyllell lèm, ac a dorrodd ddïenwaediad ei mab, ac a’i bwriodd i gyffwrdd â’i draed ef; ac a ddywedodd, Dïau dy fod yn brïod gwaedlyd i mi.

26A’r Arglwydd a beidiodd âg ef: yna y dywedodd hi, Prïod gwaedlyd wyt, oblegid yr enwaediad.

27¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Dos i gyfarfod â Moses i’r anialwch. Ac efe a aeth, ac a gyfarfu âg ef ym mynydd Duw, ac a’i cusanodd ef.

28A Moses a fynegodd i Aaron holl eiriau yr Arglwydd, yr hwn a’i hanfonasai ef, a’r holl arwyddion a orchymynasai efe iddo.

29¶ A Moses ac Aaron a aethant, ac a gynnullasant holl henuriaid meibion Israel.

30Ac Aaron a draethodd yr holl eiriau a lefarasai yr Arglwydd wrth Moses, ac a wnaeth yr arwyddion y’ngolwg y bobl.

31A chredodd y bobl: a phan glywsant ymweled o’r Arglwydd â meibion Israel, ac iddo edrych ar eu gorthrymder, yna hwy a ymgrymmasant, ac a addolasant.

← Llyfr Exodus 3Read In The App, Free →Llyfr Exodus 5 →

Study Llyfr Exodus 4

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940