Llyfr Exodus 4:23
A dywedais wrthyt, Gollwng fy mab, fel y’m gwasanaetho: ond os gwrthodi ei ollwng ef, wele, mi a laddaf dy fab di, sef dy gyntaf-anedig.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
22A dywed wrth Pharaoh, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Fy mab i, sef fy nghyntaf-anedig, yw Israel.
24¶ A bu, ar y ffordd yn y lletty, gyfarfod o’r Arglwydd âg ef, a cheisio ei ladd ef.
Cross References
Exodus 5:1Moses yn cwyno wrth Dduw. Ac wedi hynny, Moses ac Aaron a aethant i mewn, ac a ddywedasant wrth Pharaoh, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y cadwont wyl i mi yn yr anialwch.
Exodus 8:16¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dywed wrth Aaron, Estyn dy wïalen, a tharo lwch y ddaear, fel y byddo yn llau trwy holl wlad yr Aipht.
Exodus 9:1ac er hynny efe a galedir. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dos i mewn at Pharaoh, a llefara wrtho ef, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw yr Hebreaid; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont.
Exodus 10:3A daeth Moses ac Aaron i mewn at Pharaoh, a dywedasant wrtho, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw yr Hebreaid; Pa hyd y gwrthodi ymostwng ger fy mron? gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont.
Exodus 11:5A phob cyntaf-anedig y’ngwlad yr Aipht a fydd marw, o gyntaf-anedig Pharaoh, yr hwn sydd yn eistedd ar ei deyrn-gadair, hyd gyntaf-anedig y wasanaeth-ferch sydd ar ol y felin; a phob cyntaf-anedig o anifail.
Exodus 13:15A phan oedd anhawdd gan Pharaoh ein gollwng ni, y lladdodd yr Arglwydd bob cyntaf-anedig y’ngwlad yr Aipht, o gyntaf-anedig anifail: am hynny yr ydwyf yn aberthu i’r Arglwydd bob gwrryw a agoro y groth; ond pob cyntaf-anedig o’m meibion a brynaf.