Llyfr Exodus 3:18
A hwy a wrandawant ar dy lais; a thi a ddeui, ti a henuriaid Israel, at frenhin yr Aipht, a dywedwch wrtho, Arglwydd Dduw yr Hebreaid a gyfarfu â ni; ac yn awr gad i ni fyned, attolwg, daith tri diwrnod i’r anialwch, fel yr aberthom i’r Arglwydd ein Duw.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
19¶ A mi a wn na edy brenhin yr Aipht i chwi fyned, ond mewn llaw gadarn.
Cross References
Genesis 12:1Pharaoh, wedi ei dwyn hi oddi arno ef, a gymhellir gan bläau i’w rhoddi hi yn ei hol. A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram, Dos allan o’th wlad, ac oddi wrth dy genedl, ac o dŷ dy dad, i’r wlad a ddangoswyf i ti.
Genesis 17:1Enwaedu ar Abraham ac Ismael. A phan oedd Abram onid un mlwydd cant, yr ymddangosodd yr Arglwydd i Abram, ac a ddywedodd wrtho, Myfi yw Duw Hollalluog; rhodia ger fy mron i, a bydd berffaith.
Exodus 3:12Dywedodd yntau, Dïau y byddaf gyd â thi; a hyn a fydd arwydd i ti, mai myfi a’th anfonodd: Wedi i ti ddwyn fy mhobl allan o’r Aipht, chwi a wasanaethwch Dduw ar y mynydd hwn.
Exodus 4:1Y bobl yn credu iddynt. A Moses a attebodd, ac a ddywedodd, Etto, wele, ni chredant i mi, ac ni wrandawant ar fy llais; ond dywedant, Nid ymddangosodd yr Arglwydd i ti.
Exodus 4:24¶ A bu, ar y ffordd yn y lletty, gyfarfod o’r Arglwydd âg ef, a cheisio ei ladd ef.
Exodus 5:1Moses yn cwyno wrth Dduw. Ac wedi hynny, Moses ac Aaron a aethant i mewn, ac a ddywedasant wrth Pharaoh, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y cadwont wyl i mi yn yr anialwch.