Llyfr Exodus 5
1Moses yn cwyno wrth Dduw. Ac wedi hynny, Moses ac Aaron a aethant i mewn, ac a ddywedasant wrth Pharaoh, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y cadwont wyl i mi yn yr anialwch.
2A dywedodd Pharaoh, Pwy yw yr Arglwydd, fel y gwrandâwn i ar ei lais, i ollwng Israel ymaith? Yr Arglwydd nid adwaen, ac Israel ni ollyngaf.
3A dywedasant hwythau, Duw yr Hebreaid a gyfarfu â ni: gâd i ni fyned, attolwg, daith tridiau yn yr anialwch, ac aberthu i’r Arglwydd ein Duw; rhag iddo ein rhuthro â haint, neu â chleddyf.
4A dywedodd brenhin yr Aipht wrthynt, Moses ac Aaron, paham y perwch i’r bobl beidio â’u gwaith? ewch at eich beichiau.
5Pharaoh hefyd a ddywedodd, Wele, pobl y wlad yn awr ydynt lawer, a pharasoch iddynt beidio â’u llwythau.
6A gorchymynnodd Pharaoh, y dydd hwnnw, i’r rhai oedd feistriaid-gwaith ar y bobl a’u swyddogion, gan ddywedyd,
7Na roddwch mwyach wellt i’r bobl i wneuthur priddfeini, megis o’r blaen; elant a chasglant wellt iddynt eu hunain.
8A rhifedi y priddfeini y rhai yr oeddynt hwy yn ei wneuthur o’r blaen a roddwch arnynt; na leihêwch o hynny: canys segur ydynt, am hynny y maent yn gweiddi, gan ddywedyd, Gâd i ni fyned ac aberthu i’n Duw.
9Trymhâer y gwaith ar y gwŷr, a gweithiant ynddo; fel nad edrychant am eiriau ofer.
10¶ A meistriaid-gwaith y bobl, a’u swyddogion, a aethant allan, ac a lefarasant wrth y bobl, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Pharaoh, Ni roddaf wellt i chwi.
11Ewch chwi, a cheisiwch i chwi wellt lle y caffoch; er hynny ni leihêir dim o’ch gwaith.
12A’r bobl a ymwasgarodd trwy holl wlad yr Aipht, i gasglu sofl yn lle gwellt.
13A’r meistriaid-gwaith oedd yn eu prysuro, gan ddywedyd, Gorphenwch eich gwaith, dogn dydd yn ei ddydd, megis pan oedd gwellt.
14A churwyd swyddogion meibion Israel, y rhai a osodasai meistriaid-gwaith Pharaoh arnynt hwy; a dywedwyd, Paham na orphenasoch eich tasg, ar wneuthur priddfeini, ddoe a heddyw, megis cyn hynny?
15¶ Yna swyddogion meibion Israel a ddaethant ac a lefasant ar Pharaoh, gan ddywedyd, Paham y gwnei fel hyn â’th weision?
16Gwellt ni roddir i’th weision; a Gwnewch briddfeini i ni, meddant: ac wele dy weision a gurwyd; a’th bobl di dy hun sydd ar y bai.
17Ac efe a ddywedodd, Segur, segur ydych; am hynny yr ydych chwi yn dywedyd. Gâd i ni fyned ac aberthu i’r Arglwydd.
18Am hynny ewch yn awr, gweithiwch; ac ni roddir gwellt i chwi; etto chwi a roddwch yr un cyfrif o’r priddfeini.
19A swyddogion meibion Israel a’u gwelent eu hun mewn lle drwg, pan ddywedid, Na leihêwch ddim o’ch priddfeini, dogn dydd yn ei ddydd.
20¶ A chyfarfuant â Moses ac Aaron, yn sefyll ar eu ffordd, pan oeddynt yn dyfod allan oddi wrth Pharaoh:
21A dywedasant wrthynt, Edryched yr Arglwydd arnoch chwi, a barned; am i chwi beri i’n sawyr ni ddrewi ger bron Pharaoh, a cher bron ei weision, gan roddi cleddyf yn eu llaw hwynt i’n lladd ni.
22A dychwelodd Moses at yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O Arglwydd, paham y drygaist y bobl hyn? i ba beth y’m hanfonaist?
23Canys er pan ddeuthum at Pharaoh, i lefaru yn dy enw di, efe a ddrygodd y bobl hyn; a chan waredu ni waredaist dy bobl.