Llyfr Exodus 5:6
A gorchymynnodd Pharaoh, y dydd hwnnw, i’r rhai oedd feistriaid-gwaith ar y bobl a’u swyddogion, gan ddywedyd,
Beibl (1620)
In The King James Version
And Pharaoh commanded the same day the taskmasters of the people, and their officers, saying,
In Context
Cross References
Exodus 3:7¶ A dywedodd yr Arglwydd, Gan weled y gwelais gystudd fy mhobl sydd yn yr Aipht, a’u gwaedd o achos eu meistriaid-gwaith a glywais; canys mi a wn oddi wrth eu doluriau.
Exodus 5:13A’r meistriaid-gwaith oedd yn eu prysuro, gan ddywedyd, Gorphenwch eich gwaith, dogn dydd yn ei ddydd, megis pan oedd gwellt.
Numbers 11:16¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Casgl i mi ddengwr a thri ugain o henuriaid Israel, y rhai a wyddost eu bod yn henuriaid y bobl, ac yn swyddogion arnynt; a dwg hwynt i babell y cyfarfod, a safant yno gyd â thi.
Deuteronomy 16:18¶ Gwna i ti farnwyr a blaenorion yn dy holl byrth, y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti trwy dy lwythau; a barnant hwy y bobl â barn gyfiawn.
Joshua 24:1Marwolaeth Eleazar. A Josua a gynnullodd holl lwythau Israel i Sichem; ac a alwodd am henuriaid Israel, ac am eu pennaethiaid, ac am eu barnwyr, ac am eu swyddogion: a hwy a safasant ger bron Duw.
2 Chronicles 26:11Ac yr oedd gan Usseia lu o ryfelwyr, yn myned allan yn fyddinoedd, yn ôl nifer eu cyfrif hwynt, trwy law Jeiel yr ysgrifennydd, a Maaseia y llywydd, dan law Hananeia, un o dywysogion y brenin.