Llyfr Exodus 6:4
Hefyd mi a sicrheais fy nghyfammod â hwynt, am roddi iddynt wlad Canaan, sef gwlad eu hymdaith, yr hon yr ymdeithiasant ynddi.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 6:18Ond â thi y cadarnhâf fy nghyfammod; ac i’r arch yr âi di, tydi a’th feibion, a’th wraig, a gwragedd dy feibion gyd â thi.
Genesis 15:13Ac efe a ddywedodd wrth Abram, Gan wybod gwybydd, y bydd dy had di yn ddïeithr mewn gwlad nid yw eiddynt, ac a’u gwasanaethant, a hwythau a’u cystuddiant bedwar càn mlynedd.
Genesis 17:4Myfi, wele, mi a wnaf fy nghyfammod â thi, a thi a fyddi yn dad llawer o genhedloedd.
Genesis 17:8A mi a roddaf i ti, ac i’th had ar dy ol di, wlad dy ymdaith, sef holl wlad Canaan, yn etifeddiaeth dragywyddol; a mi a fyddaf yn Dduw iddynt.
Genesis 23:4Dïeithr ac alltud ydwyf fi gyd â chwi; rhoddwch i mi feddiant beddrod gyd â chwi, fel y claddwyf fy marw allan o’m golwg.
Genesis 28:4Ac a roddo i ti fendith Abraham, i ti ac i’th had gyd â thi, i etifeddu ohonot dir dy ymdaith, yr hwn a roddodd Duw i Abraham.