Llyfr Exodus 6:3
A mi a ymddangosais i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, dan enw Duw Hollalluog; ond erbyn fy enw JEHOFAH ni bûm adnabyddus iddynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
2Duw hefyd a lefarodd wrth Moses, ac a ddywedodd wrtho, Myfi yw JEHOFAH.
Cross References
Genesis 13:18Ac Abram a symmudodd ei luest, ac a ddaeth, ac a drigodd y’ngwastadedd Mamre, yr hwn sydd yn Hebron, ac a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd.
Genesis 22:14Ac Abraham a alwodd enw y lle hwnnw Jehofah -jire; fel y dywedir heddyw, Ym mynydd yr Arglwydd y gwelir.
Genesis 35:11Hefyd Duw a ddywedodd wrtho, Myfi yw Duw Hollalluog: cynnydda, ac amlhâ; cenedl a chynnulleidfa cenhedloedd a fydd o honot ti; a brenhinoedd a ddaw allan o’th lwynau di.
Exodus 3:14A Duw a ddywedodd wrth Moses, YDWYF YR HWN YDWYF: dywedodd hefyd, Fel hyn yr adroddi wrth feibion Israel, YDWYF a’m hanfonodd attoch.
Isaiah 44:6Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Brenin Israel, a’i Waredydd, ARGLWYDD y lluoedd; Myfi yw y cyntaf, diwethaf ydwyf fi hefyd; ac nid oes Duw ond myfi. º