Llyfr Exodus 6
1a Lefi, o’r hwn y daeth Moses ac Aaron. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Yn awr y cei weled beth a wnaf i Pharaoh: canys trwy law gadarn y gollwng efe hwynt, a thrwy law gadarn y gyrr efe hwynt o’i wlad.
2Duw hefyd a lefarodd wrth Moses, ac a ddywedodd wrtho, Myfi yw JEHOFAH.
3A mi a ymddangosais i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, dan enw Duw Hollalluog; ond erbyn fy enw JEHOFAH ni bûm adnabyddus iddynt.
4Hefyd mi a sicrheais fy nghyfammod â hwynt, am roddi iddynt wlad Canaan, sef gwlad eu hymdaith, yr hon yr ymdeithiasant ynddi.
5A mi a glywais hefyd uchenaid plant Israel, y rhai y mae yr Aiphtiaid yn eu caethiwo; a chofiais fy nghyfammod.
6Am hynny dywed wrth feibion Israel, Myfi yw yr Arglwydd; a myfi a’ch dygaf chwi allan oddi tan lwythau yr Aiphtiaid, ac a’ch rhyddhâf o’u caethiwed hwynt; ac a’ch gwaredaf â braich estynedig, ac â barnedigaethau mawrion.
7Hefyd mi a’ch cymmeraf yn bobl i mi, ac a fyddaf yn Dduw i chwi: a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn sydd yn eich dwyn chwi allan oddi tan lwythau yr Aiphtiaid.
8A mi a’ch dygaf chwi i’r wlad, am yr hon y tyngais y rhoddwn hi i Abraham, i Isaac, ac i Jacob; a mi a’i rhoddaf i chwi yn etifeddiaeth: myfi yw yr Arglwydd.
9¶ A Moses a lefarodd felly wrth feibion Israel: ond ni wrandawsant ar Moses, gan gyfyngdra yspryd, a chan gaethiwed caled.
10A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
11Dos i mewn; dywed wrth Pharaoh, brenhin yr Aipht, am iddo ollwng meibion Israel allan o’i wlad.
12A Moses a lefarodd ger bron yr Arglwydd, gan ddywedyd, Wele, plant Israel ni wrandawsant arnaf fi; a pha fodd y’m gwrandawai Pharaoh, a minnau yn ddïenwaededig o wefusau?
13A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron, ac a roddodd orchymyn iddynt at feibion Israel, ac at Pharaoh brenhin yr Aipht, i ddwyn meibion Israel allan o wlad yr Aipht.
14¶ Dyma eu pen-cenedl hwynt: meibion Reuben, y cyntaf-anedig i Israel: Hanoch, a Phàlu, Hesron, a Charmi: dyma deuluoedd Reuben.
15A meibion Simeon; Jemuel, a Jamin, Ohad, a Jachin, Sohar hefyd, a Saul mab y Ganaanees: dyma deuluoedd Simeon.
16¶ Dyma hefyd enwau meibion Lefi, yn ol eu cenhedlaethau; Gerson, Cohath hefyd, Merari: a blynyddoedd oes Lefi oedd gant ac onid tair blynedd deugain.
17Meibion Gerson; Libni, a Simi, yn ol eu teuluoedd.
18A meibion Cohath; Amram, ac Ishar, Hebron hefyd, ac Uzziel: a blynyddoedd oes Cohath oedd dair ar ddeg ar hugain a chàn mlynedd.
19Meibion Merari oedd Mahali a Musi: dyma deuluoedd Lefi, yn ol eu cenhedlaethau.
20Ac Amram a gymmerodd Jochebed, ei fodryb chwaer ei dad, yn wraig iddo; a hi a ymddûg iddo Aaron a Moses: a blynyddoedd oes Amram oedd onid tair deugain a chàn mlynedd.
21¶ A meibion Ishar; Corah, a Nepheg, a Sicri.
22A meibion Uzziel; Misael, ac Elsaphan, a Sithri.
23Ac Aaron a gymmerodd Eliseba, merch Aminadab, chwaer Nahason, yn wraig iddo; a hi a ymddûg iddo Nadab ac Abihu, Eleasar ac Ithamar.
24Meibion Corah hefyd; Assir, ac Elcanah, ac Abiasaph: dyma deuluoedd y Corahiaid.
25Ac Eleazar, mab Aaron, a gymmerodd yn wraig iddo un o ferched Putiel; a hi a ymddûg iddo ef Phineas: dyma bennau cenedl y Lefiaid, yn ol eu teuluoedd.
26Dyma Aaron a Moses, y rhai y dywedodd yr Arglwydd wrthynt, Dygwch feibion Israel allan o wlad yr Aipht, yn ol eu lluoedd.
27Dyma y rhai a lefarasant wrth Pharaoh, brenhin yr Aipht, am ddwyn meibion Israel allan o’r Aipht: dyma y Moses ac Aaron hwnnw.
28¶ A bu, ar y dydd y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses yn nhir yr Aipht,
29Lefaru o’r Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Myfi yw yr Arglwydd: dywed wrth Pharaoh, brenhin yr Aipht, yr hyn oll yr ydwyf fi yn ei ddywedyd wrthyt.
30A dywedodd Moses ger bron yr Arglwydd, Wele fi yn ddïenwaededig o wefusau; a pha fodd y gwrendy Pharaoh arnaf?