Llyfr Eseciel 14:22
Sl Eto wele, bydd ynddi weddill dihangol, y rhai a ddygir allan, yn feibion a merched: wele hwynt yn dyfod allan atoch, a chewch weled eu ffyrdd hwynt a'u gweithredoedd; fel yr ymgysuroch oherwydd yr adfyd a ddygais ar Jerwsalem, sef yr hyn oll a ddygais ami.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
2 Chronicles 36:20A’r rhai a ddianghasai gan y cleddyf a gaethgludodd efe i Babilon; lle y buant hwy yn weision iddo ef ac i’w feibion, nes teyrnasu o’r Persiaid:
Isaiah 10:20A bydd yn y dydd hwnnw, na chwanega gweddill Israel, a’r rhai a ddihangodd o dŷ Jacob, ymgynnal mwy* ach ar yr hwn a’u trawodd; ond pwysant ar yr ARGLWYDD, Sanct Israel, mewn gwirionedd. º
Isaiah 24:13Oblegid bydd o fewn y tir, yng nghanol y bobloedd, megis ysgydwad olewydden, ac fel grawn lloffa pan ddarffo cynhaeaf y gwin. º
Isaiah 65:8Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Megis y ceir gwin newydd mewn swp o rawn, ac y dywedir, Na ddifwyna ef; canys y mae bendith ynddo: felly y gwnaf er mwyn fy ngweision, na ddistrywiwyf hwynt oll. º
Jeremiah 4:27Canys fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Y tir oll fydd diffeithwch: ac eto ni wnaf ddiben.
Jeremiah 30:11Canys yr ydwyf fi gyda thi, medd yr ARGLWYDD, i’th achub di: er i mi wneuthur pen am yr holl genhedloedd lle y’th wasgerais, eto ni wnaf ben amdanat ti; eithr mi a’th geryddaf di mewn barn, ac ni’th adawaf yn gwbl ddigerydd. º