Llyfr Eseciel 20:41
Byddaf fodlon i chwi gyda'ch arogi peraidd, pan ddygwyf chwi allan o blith y bobloedd, a'ch casglu chwi o'r tiroedd y'ch gwasgarwyd ynddynt; a mi a sanct-eiddir ynoch yng ngolwg y cenhedloedd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 1:9Ond ei berfedd a’i draed a ylch efe mewn dwfr: a’r offeiriad a lysg y cwbl ar yr allor, yn boeth-offrwm, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
Leviticus 1:17Hollted ef, a’i esgyll hefyd; etto na wahaned ef: a llosged yr offeiriad ef ar yr coed a fyddant ar y tân. Dyma boethoffrwm, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
Numbers 20:13Dyma ddyfroedd Meribah; lle yr ymgynhennodd meibion Israel â’r Arglwydd; ac y sancteiddiwyd ef ynddynt.
Isaiah 11:11Bydd hefyd yn y dydd hwnnw, i’r Arglwydd fwrw eilwaith ei law i feddiannu gweddill ei bobl, y rhai a weddillir gan Asyria, a chan yr Aifft, a chan Pathros, a chan Ethiopia, a chan Elam, a chan Sinar, a chan Hamath, a chan ynysoedd y môr. º
Jeremiah 23:3A mi a gasglaf weddill fy nefaid o’r holl wiedydd lle y gyrrais hwynt, a mi a’u dygaf hwynt drachefn i’w corlannau; yna yr amlhant xxxx ac y chwanegant. º
Jeremiah 30:18Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele, myfi a ddychwelaf gaethiwed pebyll Jacob, ac a gymeraf drugaredd ar ei anheddau ef; a’r ddinas a adeiledir ar-ei charnedd, a’r llys a erys yn ôl ei arfer. º