Llyfr Eseciel 22:15
Canys gwasgaraf di ymysg y cen-hedloedd, a thaenaf di ar hyd y gwledydd, a gwnaf i'th aflendid ddarfod allan ohonot.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
16A thi a etifeddi ynot dy hun yng ngwydd y cenhedloedd: a chei wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD.
Cross References
Deuteronomy 4:27A’r Arglwydd a’ch gwasgara chwi ym mhlith y bobloedd, a chwi a adewir yn ddynion anaml ym mysg y cenhedloedd, y rhai y dwg yr Arglwydd chwi attynt:
Deuteronomy 28:64A’r Arglwydd a’th wasgar di ym mhlith yr holl bobloedd, o’r naill gwrr i’r ddaear hyd y cwrr arall i’r ddaear: a thi a wasanaethi yno dduwiau dïeithr, y rhai nid adnabuost ti na’th dadau; sef pren a maen.
Isaiah 1:25A mi a ddychwelaf fy llaw arnat, ac a lân buraf dy sothach, ac a dynnaf ymaith dy holl alcam.
Ezekiel 5:10Am hynny y tadau a fwytant y plant yn dy fysg di, a'r plant a fwyty eu tadau; a gwnaf ynot farnedigaethau, a mi a daenaf dy holl weddill gyda phob gwynt.
Ezekiel 12:14A gwasgaraf yr holl rai sydd yn ei gylch ef i'w gynorthwyo, a'i holl fyddinoedd, tua phob gwynt; a thynnaf gleddyf ar eu hôl hwynt.
Ezekiel 22:18Ha fab dyn, ty Israel a aeth gennyf yn amhuredd: pres, ac alcam, a haearn, a phlwm, ydynt oll yng nghanol y pair: amhuredd arian ydynt.