The Bible Software
Llyfr Eseciel · Beibl (1620)

Llyfr Eseciel 22

1GAIR yr ARGLWYDD a ddaeth ataf drachefn, gan ddywedyd,

2Tithau, fab dyn, a ferni di, a ferni ddinas y gwaed? ie, ti a wnei iddi wybod ei holl ffieidd-dra.

3Dywed dithau, Fel hyn y dywed.yr ARGLWYDD DDUW; TywaUt gwaed y mae y ddinas yn ei chanol, i ddyfod o'i hamser, ac eilunod a wnaeth hi yn ei herbyn ei hun i ymhalogi.

4Euog wyt yn dy waed, yr hwn a dywelltaist; a halogedig yn dy eilunod, y rhai a wnaethost; a thi a neseaist dy ddyddiau, a daethost hyd at dy flynyddoedd: am hynny y'th wneuthum yn warth i'r cenhedloedd, ac yn watwargerdd i'r holl wiedydd.

5Y rhai agos a'r rhai pell oddi wrthyt a'th watwarant, yr halogedig o enw, ac ami dy drallod.

6Wele, tywysogion Israel oeddynt ynot, bob un yn ei allu i dywallt gwaed.

7Dirmygasant ynot dad a mam; gwnaethant yn dwyllodrus a'r dieithr o'th fewn: gorthrymasant ynot yr amddifad a'r weddw.

8Dirmygaist fy mhethau sanctaidd, a halogaist fy Sabothau.

9Athrodwyr oedd ynot i dywallt gwaed; ar y mynyddoedd hefyd y bwytasant ynot ti: gwnant ysgelerder o'th fewn.

10Ynot ti y datguddient noethni eu tad: yr aflan o fisglwyf a ddarostyngent ynot.

11Gwnai ŵr hefyd ffieidd-dra a gwraig ei gymydog; a gŵr a halogai ei waudd ei hun mewn ysgelerder; ie, darostyngai gŵr ynot ei chwaer ei hun, merch ei dad.

12Gwobr a gymerent ynot am dywallt gwaed; cymeraist usuriaeth ac ocraeth, ac elwaist ar dy gymdogion trwy dwyll, ac anghofiaist fi, medd yr ARGLWYDD DDUW.

13Am hynny wele, trewais fy llaw wrth dy gybydd-dod yr hwn a wnaethost, ac am y gwaed oedd o'th fewn.

14A bery dy galon, a gryfha dy ddwylo, yn y dyddiau y bydd i mi a wnelwyf a thi? myfi yr ARGLWYDD a'i lleferais, ac a'i gwnaf.

15Canys gwasgaraf di ymysg y cen-hedloedd, a thaenaf di ar hyd y gwledydd, a gwnaf i'th aflendid ddarfod allan ohonot.

16A thi a etifeddi ynot dy hun yng ngwydd y cenhedloedd: a chei wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD.

17A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd,

18Ha fab dyn, ty Israel a aeth gennyf yn amhuredd: pres, ac alcam, a haearn, a phlwm, ydynt oll yng nghanol y pair: amhuredd arian ydynt.

19Am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD DDUW; Am eich bod ohwi oll yn amhuredd, am hynny wele fi yn eich casglu chwi i ganol Jerwsalem.

20Fel casglu arian, a phres, a haearn, a phlwm, ac alcam, i ganol y ffwrn, i chwythu tân arnynt i'w toddi; felly yn fy llid a'm dig y casglaf chwi, ac a'ch gadaw-af yno, ac a'ch toddaf.

21Ie, casglaf chwi, a chwythaf arnoch a than fy llidiowgrwydd, fel y todder chwi yn ei chanol hi.

22Fel y toddir arian yng nghanol y pair, felly y toddir chwi yn ei chanol hi; fel y gwypoch mai myfi yr ARGLWYDD a dywelltais fy llidiowgrwydd arnoch.

23H A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd,

24Dywed wrthi hi, fab dyn, TLyw y tir sydd heb ei buro, heb lawio amo yn nydd dieter.

25Cydfradwriaeth ei phroffwydi o'i mewn, sydd fel Hew rhuadwy yn ysglyfaethu ysglyfaeth; eneidiau a ysasant; trysor a phethau gwerthfawr a gymerasant; ei gweddwon hi a amlhasant hwy o'i mewn.

26Ei hoffeiriaid a dreisiasant fy nghyf-raith, ac a halogasant fy mhethau sanct¬aidd: ni wnaethant ragor rhwng cyseg-redig a halogedig, ac ni wnaethant wybod rhagor rhwng yr aflan a'r glân; cuddiasant hefyd eu llygaid oddi wrth fy Sabothau, a halogwyd fi yn eu mysg hwynt.

27Ei phenaethiaid oedd yn ei chanol fel bleiddiaid yn ysglyfaethu' ysglyfaeth, i dywallt gwaed, i ddifetha eneidiau, er elwa elw.

28Ei phroffwydi hefyd a'u priddasant hwy a chlai annhymherus, gan weled gwagedd, a dewinio iddynt gelwydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, a'r ARGLWYDD heb ddy¬wedyd.

29Pobl y tir a arferasant dwyll, ac a dreisiasant drais, ac a orthrymasant y truan a'r tlawd; y dieithr hefyd a orthrym¬asant yn anghyfiawn.

30Ceisiais hefyd ŵr ohonynt i gau y cae, ac i sefyll ar yr adwy o'm blaen dros y wlad, rhag ei dinistrio; ac nis-cefais.

31Am hynny y tywelltais fy nigofaint arnynt, a than fy llidiowgrwydd y difethais hwynt; eu ffordd eu hun a roddais ar eu pennau hwynt, medd yr ARGLWYDD DDUW.

← Llyfr Eseciel 21Read In The App, Free →Llyfr Eseciel 23 →

Study Llyfr Eseciel 22

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748