Llyfr Esra 5:2
Yna Sorobabel mab Salathiel, a Jesua mab Josadac, a godasant, ac a ddechreuasant adeiladu tŷ DDUW yr hwn sydd yn Jerwsalem: a phroffwydi Duw oedd gyda hwynt yn eu cynorthwyo.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Ezra 1:8Y rhai hynny a ddug Cyrus brenin Persia allan trwy law Mith redath y trysorydd, ac a’u rhifodd hwynt at Sesbassar pennaeth Jwda.
Ezra 3:8Ac yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwy i dŷ DDUW i Jerwsalem, yn yr ail fis, y dechreuodd Sorobabel mab Salathiel, a Jesua mab Josadac, a’r rhan arall o’u brodyr hwynt yr offeinaid ar Lefiaid, a’r rhai oll a ddaethai o’r caethiwed i Jerwsalem; ac a osodasant y Lefiaid, o fab ugeinmlwydd ac uchod, yn olygwyr ar waith tŷ yr ARGLWYDD.
Haggai 1:12Yna y gwrandawodd Sorobabel mab Salathiel, a Josua mab Josedec yr archoffeiriad, a holl weddill y bobl, ar lais yr ARGLWYDD eu DUW, ac ar eiriau Haggai y proffwyd, megis yr anfonasai eu HARGLWYDD DDUW hwynt ef; a'r bobl a ofnasant gerbron yr ARGLWYDD.
Haggai 2:4Eto yn awr ymgryfha, Sorobabel, medd yr ARGLWYDD, ac ymgryfha, Josua mab Josedec yr archoffeiriad, ac ymgryfhewch, holl bobl y tir, medd yr ARGLWYDD, a gweithiwch: canys yr ydwyf fi gyda chwi, medd ARGLWYDD y lluoedd:
Zechariah 3:1Ac efe a ddangosodd i mi Josua yr archoffeiriad yn sefyll gerbron angel yr yr ARGLWYDD, a Satan yn sefyll ar ei ddeheulaw ef i'w wrthwynebu ef.
Zechariah 4:4A mi a atebais, ac a ddywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, gan ddywedyd, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd?