Llyfr Sechareia 3:1
Ac efe a ddangosodd i mi Josua yr archoffeiriad yn sefyll gerbron angel yr yr ARGLWYDD, a Satan yn sefyll ar ei ddeheulaw ef i'w wrthwynebu ef.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 3:15Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngot ti a’r wraig, a rhwng dy had di a’i had hithau; efe a ysiga dy ben di, a thithau a ysigi ei sawdl ef.
Exodus 3:2Ac angel yr Arglwydd a ym ddangosodd iddo mewn fflam dân o ganol perth: ac efe a edrychodd, ac wele y berth yn llosgi yn dân, a’r berth heb ei difa.
Deuteronomy 10:8¶ Yr amser hwnnw y neillduodd yr Arglwydd lwyth Lefi, i ddwyn arch cyfammod yr Arglwydd, i sefyll ger bron yr Arglwydd, i’w wasanaethu ef, ac i fendigo yn ei enw ef, hyd y dydd hwn.
1 Samuel 6:20A gwŷr Bethsemes a ddywedasant, Pwy a ddichon sefyll yn wyneb yr ARGLWYDD DDUW sanctaidd hwn? ac at bwy yr ai efe oddi wrthym ni?
2 Chronicles 29:11Fy meibion, na fyddwch ddifraw yn awr: canys yr ARGLWYDD a’ch dewisodd chwi i sefyll ger ei fron ef, i weini iddo ef, ac i fod yn gweini, ac yn arogldarthu iddo ef.
Ezra 5:2Yna Sorobabel mab Salathiel, a Jesua mab Josadac, a godasant, ac a ddechreuasant adeiladu tŷ DDUW yr hwn sydd yn Jerwsalem: a phroffwydi Duw oedd gyda hwynt yn eu cynorthwyo.