Llyfr Esra 6:8
Gosodais hefyd orchymyn am yr hyn a wnewch i henuriaid yr Iddewon hyn wrth adeiladu y tŷ DDUW hwn; mai o gyfoeth y brenin, sef o’r deyrnged o’r tu hwnt i’r afon, y rhoddir traul i’r gwŷr hyn, fel na pheidio y gwaith.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Ezra 4:20A brenhinoedd cryfion a fu ar Jerwsalem, yn llywodraethu ar bawb o’r tu hwnt i’r afon, ac iddynt hwy y rhoddid toll, teyrnged, a threth.
Ezra 5:5A golwg eu Duw oedd ar henuriaid yr Iddewon, fel na wnaethant iddynt beidio, nes dyfod yr achos at Dareius; ac yna yr atebasant trwy lythyr am hyn.
Ezra 6:14A henuriaid yr Iddewon a adeiladasant, ac a lwyddasant trwy broffwydoliaeth Haggai y proffwyd, a Sechareia mab Ido; ie, adeiladasant, a gorffenasant, wrth orchymyn DUW Israel, ac wrth orchymyn Cyrus a Dareius, ac Artacsercses brenin Persia.
Nehemiah 2:8A llythyr at Asaff, ceidwad coedwig y brenin, fel y rhoddo efe i mi goed i wneuthur trawstiau i byrth y palas y rhai a berthyn i’r tŷ, ac i fur y ddinas, ac i’r tŷ yr elwyf iddo. A’r brenin a roddodd i mi, fel yr oedd daionus law fy NUW arnaf fi.