Llyfr Genesis 12
1Pharaoh, wedi ei dwyn hi oddi arno ef, a gymhellir gan bläau i’w rhoddi hi yn ei hol. A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram, Dos allan o’th wlad, ac oddi wrth dy genedl, ac o dŷ dy dad, i’r wlad a ddangoswyf i ti.
2A mi a’th wnaf yn genhedlaeth fawr, ac a’th fendithiaf, mawrygaf hefyd dy enw; a thi a fyddi yn fendith.
3Bendithiaf hefyd dy fendithwyr, a’th felldithwyr a felldigaf: a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti.
4Yna yr aeth Abram, fel y llefarasai yr Arglwydd wrtho; a Lot a aeth gyd âg ef: ac Abram oedd fab pymtheng mlwydd a thri ugain pan aeth efe allan o Haran.
5Ac Abram a gymmerodd Sarai ei wraig, a Lot mab ei frawd, a’u holl olud a gasglasent hwy, a’r eneidiau a ynnillasent yn Haran, ac a aethant allan i fyned i wlad Canaan; ac a ddaethant i wlad Canaan.
6¶ Ac Abram a dramwyodd trwy y tir hyd le Sichem, hyd wastadedd Moreh: a’r Canaanead oedd yn y wlad y pryd hwnnw.
7A’r Arglwydd a ymddangosodd i Abram, ac a ddywedodd, I’th had di y rhoddaf y tir hwn: yntau a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd, yr hwn a ymddangosasai iddo.
8Ac efe a dynnodd oddi yno i’r mynydd, o du dwyrain Bethel, ac a estynodd ei babell, gan adael Bethel tu a’r gorllewin, a Hai tu a’r dwyrain: ac a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd, ac a alwodd ar enw yr Arglwydd.
9Ac Abram a ymdeithiodd, gan fyned ac ymdaith tu a’r dehau.
10¶ Ac yr oedd newyn yn y tir; ac Abram a aeth i waered i’r Aipht, i ymdeithio yno, am drymhâu o’r newyn yn y wlad.
11A bu, ac efe yn nesáu i fyned i mewn i’r Aipht, ddywedyd ohono wrth Sarai ei wraig, Wele, yn awr mi a wn mai gwraig lân yr olwg wyt ti:
12A phan welo yr Aiphtiaid dydi, hwy a ddywedant, Dyma ei wraig ef; a hwy a’m lladdant i, a thi a adawant yn fyw.
13Dywed, attolwg, mai fy chwaer wyt ti: fel y byddo da i mi er dy fwyn di, ac y byddwyf fyw o’th blegid di.
14¶ A bu, pan ddaeth Abram i’r Aipht, i’r Aiphtiaid edrych ar y wraig, mai glân odiaeth oedd hi.
15A thywysogion Pharaoh a’i gwelsant hi, ac a’i canmolasant hi wrth Pharaoh: a’r wraig a gymmerwyd i dŷ Pharaoh.
16Ac efe a fu dda wrth Abram er ei mwyn hi: ac yr oedd ganddo ef ddefaid a gwartheg, ac asynod, a gweision, a morwynion, ac asenod, a chamelod.
17A’r Arglwydd a darawodd Pharaoh a’i dŷ â phläau mawrion, o achos Sarai gwraig Abram.
18A Pharaoh a alwodd Abram, ac a ddywedodd, Paham y gwnaethost hyn i mi? Paham na fynegaist i mi mai dy wraig oedd hi?
19Paham y dywedaist, Fy chwaer yw hi? fel y cymmerwn hi yn wraig i mi: ond yr awr hon wele dy wraig, cymmer hi, a dos ymaith.
20A Pharaoh a roddes orchymyn i’w ddynion o’i blegid ef: a hwy a’i gollyngasant ef ymaith, a’i wraig, a’r hyn oll oedd eiddo ef.