Llyfr Genesis 15:5
Ac efe a’i dug ef allan, ac a ddywedodd, Golyga yn awr y nefoedd, a rhif y sêr, o gelli eu cyfrif hwynt: dywedodd hefyd wrtho, Felly, y bydd dy had di.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
6Yntau a gredodd yn yr Arglwydd, ac efe a’i cyfrifodd iddo yn gyfiawnder.
Cross References
Genesis 13:16Gwnaf hefyd dy had di fel llwch y ddaear; megis os dichon gwr rifo llwch y ddaear, yna y rhifir dy had dithau.
Genesis 22:17Mai gan fendithio y’th fendithiaf, a chan amlhâu yr amlhâf dy had, fel sêr y nefoedd, ac fel y tywod yr hwn sydd ar làn y môr; a’th had a feddianna borth ei elynion;
Genesis 28:14A’th had di fydd fel llwch y ddaear; a thi a dorri allan i’r gorllewin, ac i’r dwyrain, ac i’r gogledd, ac i’r dehau: a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti, ac yn dy had di.
Exodus 32:13Cofia Abraham, Isaac, ac Israel, dy weision, y rhai y tyngaist wrthynt i ti dy hun, ac y dywedaist wrthynt. Mi a amlhâf eich had chwi fel sêr y nefoedd; a’r holl wlad yma yr hon a ddywedais, a roddaf i’ch had chwi, a hwy a’i hetifeddant byth.
Deuteronomy 10:22Dy dadau a aethant i waered i’r Aipht yn ddeg enaid a thri ugain; ac yr awr hon yr Arglwydd dy Dduw a’th wnaeth di fel sêr y nefoedd o lïosowgrwydd.
Psalms 147:4Ei anadl a â allan, efe a ddychwel i’w ddaear: y dydd hwnnw y derfydd am ei holl amcanion ef.