Llyfr Genesis 28:14
A’th had di fydd fel llwch y ddaear; a thi a dorri allan i’r gorllewin, ac i’r dwyrain, ac i’r gogledd, ac i’r dehau: a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti, ac yn dy had di.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 12:3Bendithiaf hefyd dy fendithwyr, a’th felldithwyr a felldigaf: a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti.
Genesis 13:16Gwnaf hefyd dy had di fel llwch y ddaear; megis os dichon gwr rifo llwch y ddaear, yna y rhifir dy had dithau.
Genesis 22:18Ac yn dy had di y bendithir holl genhedloedd y ddaear: o achos gwrandaw o honot ar fy llais i.
Genesis 32:12A thydi a ddywedaist, Gwnaf ddaioni i ti yn ddïau; a’th had di a wnaf fel tywod y môr, yr hwn o amlder ni ellir ei rifo.
Exodus 32:13Cofia Abraham, Isaac, ac Israel, dy weision, y rhai y tyngaist wrthynt i ti dy hun, ac y dywedaist wrthynt. Mi a amlhâf eich had chwi fel sêr y nefoedd; a’r holl wlad yma yr hon a ddywedais, a roddaf i’ch had chwi, a hwy a’i hetifeddant byth.
Deuteronomy 12:20¶ Pan helaetho yr Arglwydd dy Dduw dy derfyn di, megis y dywedodd wrthyt, os dywedi, Bwyttâf gig, (pan ddymuno dy galon fwytta cig,) yn ol holl ddymuniad dy galon y bwyttêi gig.