Llyfr Genesis 20:3
Yna y daeth Duw at Abimelech, noswaith, mewn breuddwyd, ac a ddywedodd wrtho, Wele, dyn marw wyt ti am y wraig a gymmeraist, a hithau yn berchen gwr.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
4Ond Abimelech ni nesasai atti hi: ac efe a ddywedodd, Arglwydd, a leddi di genedl gyfiawn hefyd?
Cross References
Genesis 28:12Ac efe a freuddwydiodd; ac wele ysgol yn sefyll ar y ddaear, a’i phen yn cyrhaeddyd i’r nefoedd: ac wele angelion Duw yn dringo ac yn disgyn ar hyd-ddi.
Genesis 37:5¶ A Joseph a freuddwydiodd freuddwyd, ac a’i mynegodd i’w frodyr: a hwy a’i casasant ef etto yn ychwaneg.
Genesis 40:5¶ A breuddwydiasant freuddwyd ill dau, pob un ei freuddwyd ei hun yn yr un nos, pob un ar ol dehongliad ei freuddwyd ei hun, trulliad a phobydd brenhin yr Aipht, y rhai oedd yn rhwym yn y carchardy.
Genesis 41:1Y newyn yn dechreu. Yna ym mhen dwy flynedd lawn, y bu i Pharaoh freuddwydio; ac wele efe yn sefyll wrth yr afon.
Job 4:12Ac ataf fi y dygwyd gair yn ddirgel: a’m clust a dderbyniodd ychydig ohono.
Job 33:15Trwy hun, a thrwy weledigaeth nos, pan syrthio trymgwsg ar ddynion, wrth hepian ar wely;