The Bible Software
Llyfr Genesis · Beibl (1620)

Llyfr Genesis 20

1ac yn cael ei iachâu trwy weddi Abraham. Ac Abraham a aeth oddi yno i dir y dehau, ac a gyfanneddodd rhwng Cades a Sur, ac a ymdeithiodd yn Gerar.

2A dywedodd Abraham am Sara ei wraig, Fy chwaer yw hi: ac Abimelech brenhin Gerar a anfonodd, ac a gymmerth Sara.

3Yna y daeth Duw at Abimelech, noswaith, mewn breuddwyd, ac a ddywedodd wrtho, Wele, dyn marw wyt ti am y wraig a gymmeraist, a hithau yn berchen gwr.

4Ond Abimelech ni nesasai atti hi: ac efe a ddywedodd, Arglwydd, a leddi di genedl gyfiawn hefyd?

5Oni ddywedodd efe wrthyf fi, Fy chwaer yw hi? a hithau hefyd ei hun a ddywedodd, Fy mrawd yw efe: ym mherffeithrwydd fy nghalon, ac y’nglendid fy nwylaw, y gwneuthum hyn.

6Yna y dywedodd Duw wrtho ef mewn breuddwyd, Minnau a wn mai ym mherffeithrwydd dy galon y gwnaethost hyn; a mi a’th atteliais rhag pechu i’m herbyn: am hynny ni adewais i ti gyffwrdd â hi.

7Yn awr gan hynny, dod y wraig drachefn i’r gwr; o herwydd prophwyd yw efe, ac efe a weddïa trosot, a byddi fyw: ond oni roddi hi drachefn, gwybydd y byddi farw yn ddïau, ti a’r rhai oll ydynt eiddot ti.

8Yna y cododd Abimelech yn fore, ac a alwodd am ei holl weision, ac a draethodd yr holl bethau hyn wrthynt hwy: a’r gwŷr a ofnasant yn ddirfawr.

9Galwodd Abimelech hefyd am Abraham, a dywedodd wrtho, Beth a wnaethost i ni? a pheth a bechais i’th erbyn, pan ddygit bechod mor fawr arnaf fi, ac ar fy nheyrnas? gwnaethost â mi weithredoedd ni ddylesid eu gwneuthur.

10Abimelech hefyd a ddywedodd wrth Abraham, Beth a welaist, pan wnaethost y peth hyn?

11A dywedodd Abraham, Am ddywedyd o honof fi. Yn ddïau nid oes ofn Duw yn y lle hwn: a hwy a’m lladdant i o achos fy ngwraig.

12A hefyd yn wir fy chwaer yw hi: merch fy nhad yw hi, ond nid merch fy mam; ac y mae hi yn wraig i mi.

13Ond pan barodd Duw i mi grwydro o dŷ fy nhad, yna y dywedais wrthi hi, Dyma dy garedigrwydd yr hwn a wnei â mi ym mhob lle y delom iddo; dywed am danaf fi, Fy mrawd yw efe.

14Yna y cymmerodd Abimelech ddefaid, a gwartheg, a gweision, a morwynion, ac a’u rhoddes i Abraham: rhoddes hefyd iddo ef Sarah ei wraig drachefn.

15A dywedodd Abimelech, Wele fy ngwlad ger dy fron di, trig lle y byddo da yn dy olwg.

16Ac wrth Sarah y dywedodd, Wele, rhoddais i’th frawd fil o ddarnau arian: wele ef yn orchudd llygaid i ti, i’r rhai oll sydd gyd â thi, a chyd â phawb eraill: fel hyn y ceryddwyd hi.

17¶ Yna Abraham a weddïodd ar Dduw: a Duw a iachaodd Abimelech, a’i wraig, a’i forwynion; a hwy a blantasant.

18O herwydd yr Arglwydd gan gau a gauasai ar bob croth yn nhŷ Abimelech, o achos Sarah gwraig Abraham.

← Llyfr Genesis 19Read In The App, Free →Llyfr Genesis 21 →

Study Llyfr Genesis 20

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829303132333435363738394041424344454647484950