Llyfr Genesis 20:6
Yna y dywedodd Duw wrtho ef mewn breuddwyd, Minnau a wn mai ym mherffeithrwydd dy galon y gwnaethost hyn; a mi a’th atteliais rhag pechu i’m herbyn: am hynny ni adewais i ti gyffwrdd â hi.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 3:3Ond am ffrwyth y pren sydd y’nghanol yr ardd, Duw a ddywedodd, Na fwyttêwch o hono, ac na chyffyrddwch âg ef, rhag eich marw.
Genesis 26:11A gorchymynnodd Abimelech i’r holl bobl, gan ddywedyd, Yr hwn a gyffyrddo â’r gwr hwn, neu â’i wraig, a leddir yn farw.
Genesis 35:5A hwy a gychwynasant: ac ofn Duw oedd ar y dinasoedd y rhai oedd o’u hamgylch hwynt, ac nid erlidiasant ar ol meibion Jacob.
Exodus 34:24Canys mi a yrraf y cenhedloedd allan o’th flaen di, ac a helaethaf dy derfynau di: ac ni chwennych neb dy dir di, pan elych i fynu i ymddangos ger bron yr Arglwydd dy Dduw, dair gwaith yn y flwyddyn.
1 Samuel 25:26Ac yn awr, fy arglwydd, fel y mae yr ARGLWYDD yn fyw, ac mai byw dy enaid di, gan i’r ARGLWYDD dy luddias di rhag dyfod i dywallt gwaed, ac i ymddial â’th law dy hun; yn awr bydded dy elynion di, a’r sawl a geisiant niwed i’m harglwydd, megis Nabal. º
Psalms 51:4Geilw at y nefoedd oddi uchod, ac ar y ddaear, i farnu ei bobl.