Llyfr Genesis 23:11
Nag ê, fy arglwydd, clyw fi: rhoddais y maes i ti, a’r ogof sydd ynddo, i ti y rhoddais hi, y’ngŵydd meibion fy mhobl y rhoddais hi i ti: cladd di dy farw.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
12Ac Abraham a ymgrymmodd o flaen pobl y tir.
Cross References
Genesis 23:18Yn feddiant i Abraham, y’ngolwg meibion Heth, yng ngŵydd pawb a ddelynt i borth ei ddinas ef.
Deuteronomy 17:6Wrth dystiolaeth dau o dystion, neu dri o dystion, y rhoddir i farwolaeth yr hwn a fyddo marw: na rodder ef i farwolaeth wrth dystiolaeth un tyst.
Ruth 4:1Yna Boas a aeth i fyny i’r porth, ac a eisteddodd yno. Ac wele y cyf¬athrachwr yn myned heibio, am yr hwn y dywedasai Boas. Ac efe a ddywedodd wrtho. Ho, hwn a hwn! tyred yn nes; eistedd yma. Ac efe a nesaodd, ac a eisteddodd.
Ruth 4:9A dywedodd Boas wrth yr henur¬iaid, ac wrth yr holl bobl, Tystion ydych chwi heddiw, i mi brynu yr hyn oll oedd eiddo Elimelech, a’r hyn oll oedd eiddo Chilion a Mahlon, o law Naomi.
1 Chronicles 21:22A dywedodd Dafydd wrth Oman Moes i mi le y llawr dymu, fel yr adeilad-wyf ynddo allor i’r ARGLWYDD: dyro ef i mi am ei lawn werth; fel yr atalier y pla oddi wrth y bobl. º