Llyfr Genesis 23
1lle y claddwyd Sarah. Ac oes Sara ydoedd gàn mlynedd a saith mlynedd ar hugain; dyma flynyddoedd oes Sarah.
2A Sara a fu farw yng Nghaer-Arba; honno yw Hebron yn nhir Canaan: ac Abraham a aeth i alaru am Sarah, ac i wylofain am dani hi.
3¶ Yna y cyfododd Abraham i fynu oddi ger bron ei gorph marw, ac a lefarodd wrth feibion Heth, gan ddywedyd,
4Dïeithr ac alltud ydwyf fi gyd â chwi; rhoddwch i mi feddiant beddrod gyd â chwi, fel y claddwyf fy marw allan o’m golwg.
5A meibion Heth a attebasant Abraham, gan ddywedyd wrtho,
6Clyw ni, fy arglwydd: tywysog Duw wyt ti yn ein plith: cladd dy farw yn dy ddewis o’n beddau ni: ni rwystr neb o honom ni ei fedd i ti i gladdu dy farw.
7Yna y cyfododd Abraham, ac a ymgrymmodd i bobl y tir, sef i feibion Heth;
8Ac a ymddiddanodd â hwynt, gan ddywedyd, Os yw eich ewyllys i mi gael claddu fy marw allan o’m golwg, gwrandêwch fi, ac eiriolwch trosof fi ar Effron fab Sohar;
9Ar roddi o hono ef i mi yr ogof Machpelah, yr hon sydd eiddo ef, ac sydd y’nghwrr ei faes, er ei llawn werth o arian rhodded hi i mi, yn feddiant beddrod yn eich plith chwi.
10Ac Ephron oedd yn aros ym mysg meibion Heth: ac Ephron yr Hethiad a artebodd Abraham, lle y clywodd meibion Heth, y’ngŵydd pawb a ddeuent i borth ei ddinas ef, gan ddywedyd,
11Nag ê, fy arglwydd, clyw fi: rhoddais y maes i ti, a’r ogof sydd ynddo, i ti y rhoddais hi, y’ngŵydd meibion fy mhobl y rhoddais hi i ti: cladd di dy farw.
12Ac Abraham a ymgrymmodd o flaen pobl y tir.
13Ac efe a lefarodd wrth Ephron lle y clybu pobl y tir, gan ddywedyd, Etto, os tydi a’i rhoddi, attolwg, gwrando fi; rhoddaf werth y maes; cymmer gennyf, a mi a gladdaf fy marw yno.
14Ac Ephron a attebodd Abraham, gan ddywedyd wrtho,
15Gwrando fi, fy arglwydd; y tir a dâl bedwar càn sicl o arian: beth yw hynny rhyngof fi a thithau? am hynny cladd dy farw.
16Felly Abraham a wrandawodd ar Ephron: a phwysodd Abraham i Ephron yr arian, a ddywedasai efe lle y clybu meibion Heth: pedwar càn sicl o arian cymmeradwy ym mhlith marchnadwyr.
17¶ Felly y sicrhâwyd maes Ephron, yr hwn oedd ym Machpelah, yr hon oedd o flaen Mamre, y maes a’r ogof oedd ynddo, a phob pren a’r a oedd yn y maes, ac yn ei holl derfynau o amgylch,
18Yn feddiant i Abraham, y’ngolwg meibion Heth, yng ngŵydd pawb a ddelynt i borth ei ddinas ef.
19Ac wedi hynny Abraham a gladdodd Sarah ei wraig yn ogof maes Machpelah, o flaen Mamre; honno yw Hebron, yn nhir Canaan.
20A sicrhâwyd y maes, a’r ogof yr hon oedd ynddo, i Abraham, yn feddiant beddrod, oddi wrth feibion Heth.