Llyfr Genesis 24:42
A heddyw y deuthum at y ffynnon, ac a ddywedais, Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, os ti sydd yr awr hon yn llwyddo fy nhaith, yr hon yr wyf fi yn myned arni:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 24:12Ac efe a ddywedodd, O Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, attolwg, pâr i mi lwyddiant heddyw; a gwna drugaredd â’m meistr Abraham.
Genesis 39:3A’i feistr a welodd fod yr Arglwydd gyd âg ef, a bod yr Arglwydd yn llwyddo yn ei law ef yr hyn oll a wnelai efe.
Nehemiah 1:11Atolwg, ARGLWYDD, bydded yn awr dy glust yn gwrando ar weddi dy was, ac ar weddi dy weision y rhai sydd yn ewyllysio ofni dy enw: llwydda hefyd, atolwg, dy was heddiw, a chaniatâ iddo gael trugaredd gerbron y gŵr hwn. Canys myfi oedd drulliad i’r brenin.
Psalms 90:17A bydded prydferthwch yr ARGLWYDD ein DUW arnom ni: a threfna weithred ein dwylo ynom ni; ie, trefna waith ein dwylo.
Acts 10:22Hwythau a ddywedasant, Cornelius! y canwriad, gŵr cyfiawn, ac yn ofni Duw, ac â gair da iddo gan holl genedl yr Iddewon, a rybuddiwyd gan angel sanctaidd, i ddanfon amdanat ti i’w dŷ, ac i wrando geiriau gennyt.