Llyfr Genesis 39:3
A’i feistr a welodd fod yr Arglwydd gyd âg ef, a bod yr Arglwydd yn llwyddo yn ei law ef yr hyn oll a wnelai efe.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 21:20Ac yr oedd Duw gyd â’r llangc; ac efe a gynyddodd, ac a drigodd yn yr anialwch, ac a aeth yn berchen bwa.
Genesis 21:23Yn awr gan hynny, twng wrthyf fi yma i Dduw, na fyddi anffyddlawn i mi, nac i’m mab, nac i’m hŵyr: yn ol y drugaredd a wneuthum â thi y gwnei di â minnau, ac â’r wlad yr ymdeithiaist ynddi.
Genesis 26:28Yna y dywedasant, Gan weled ni a welsom fod yr Arglwydd gyd â thi: a dywedasom, Bydded yn awr gynghrair rhyngom ni, sef rhyngom ni a thi; a gwnawn gyfammod â thi;
Genesis 30:30Oblegid ychydig oedd yr hyn ydoedd gennyt ti cyn fy nyfod i, ond yn llïosowgrwydd y cynnyddodd; o herwydd yr Arglwydd a’th fendithiodd di er pan ddeuthum i: bellach gan hynny pa bryd y darparaf hefyd i’m tŷ fy hun?
Genesis 39:23Nid oedd pennaeth y carchardy yn edrych am ddim oll a’r a oedd dan ei law ef, am fod yr Arglwydd gyd âg ef; a’r hyn a wnai efe, yr Arglwydd a’i llwyddai.
Joshua 1:7Yn unig ymgryfhâ, ac ymwrola yn lew, i gadw ar wneuthur yn ol yr holl gyfraith a orchymynodd Moses fy ngwas i ti: na ogwydda oddi wrthi, ar y llaw ddehau nac ar y llaw aswy; fel y ffynnech i ba le bynnag yr elych.