Llyfr Genesis 25:21
Ac Isaac a weddïodd ar yr Arglwydd dros ei wraig, am ei bod hi yn amhlantadwy, a’r Arglwydd a wrandawodd arno ef, a Rebeccah ei wraig ef a feichiogodd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 11:30A Sarai oedd ammhlantadwy, heb blentyn iddi.
Genesis 16:2A Sarai a ddywedodd wrth Abram; Wele yn awr, yr Arglwydd a luddiodd i mi blanta: dos, attolwg, at fy llaw-forwyn; fe allai y cair i mi blant o honi hi: ac Abram a wrandawodd ar lais Sarai.
Genesis 30:22¶ A Duw a gofiodd Rahel, a Duw a wrandawodd arni, ac a agorodd ei chroth hi.
1 Samuel 1:11Hefyd hi a addunodd adduned, ac a ddywedodd, O ARGLWYDD y lluoedd, os gan edrych yr edrychi ar gystudd dy lawforwyn, ac a’m cofi i, ac nid anghofi dy lawforwyn, ond rhoddi i’th lawforwyn fab: yna y rhoddaf ef i’r ARGLWYDD holl ddyddiau ei einioes, ac ni ddaw ellyn ar ei ben ef.
1 Chronicles 5:20A chynorthwywyd hwynt yn erbyn y rhai hynny, a rhoddwyd yr Hagariaid i’w dwylo hwynt, a chwbl a’r a ydoedd gyda hwynt: canys llefasant ar DDUW yn y rhyfel, ac efe a wrandawodd aarynt, oherwydd iddynt obeithio ynddo.
Ezra 8:23Am hynny yr ymprydiasom ac yr ymbiliasom â’n Duw am hyn; ac efe a wrandawodd amom.