Llyfr Genesis 25
1Esau yn gwerthu braint ei enedigaeth. Ac Abraham a gymmerodd eilwaith wraig, a’i henw Ceturah.
2A hi a esgorodd iddo ef Zimran, a Jocsan, a Medan, a Midian, ac Isbac, a Suah.
3A Jocsan genhedlodd Seba, a Dedan: a meibion Dedan oedd Assurim, a Letusim, a Lëummim.
4A meibion Midian oedd Ephah, ac Epher, a Hanoch, ac Abida, ac Eldaah: yr holl rai hyn oedd feibion Ceturah.
5¶ Ac Abraham a roddodd yr hyn oll oedd ganddo i Isaac.
6Ac i feibion gordderch-wragedd Abraham y rhoddodd Abraham roddion; ac efe a’u hanfonodd hwynt oddi wrth Isaac ei fab, tu a’r dwyrain, i dir y dwyrain, ac efe etto yn fyw.
7A dyma ddyddiau blynyddoedd einioes Abraham, y rhai y bu efe fyw; càn mlynedd a phymtheng mlynedd a thri ugain.
8Ac Abraham a drengodd, ac a fu farw mewn oed teg, yn hen, ac yn gyflawn o ddyddiau; ac efe a gasglwyd at ei bobl.
9Ac Isaac ac Ismael ei feibion a’i claddasant ef yn ogof Machpelah, ym maes Ephron fab Sohar yr Hethiad, yr hwn sydd o flaen Mamre;
10Y maes a brynasai Abraham gan feibion Heth; yno y claddwyd Abraham, a Sara ei wraig.
11¶ Ac wedi marw Abraham, bu hefyd i Dduw fendithio Isaac ei fab ef: ac Isaac a drigodd wrth ffynnon Lahai-roi.
12¶ A dyma genhedlaethau Ismael, fab Abraham, yr hwn a ymddûg Agar yr Aiphtes, morwyn Sara, i Abraham.
13A dyma enwau meibion Ismael, erbyn eu henwau, trwy eu cenhedlaethau: Nebaioth cyntaf-anedig Ismael, a Chedar, ac Adbeel, a Mibsam,
14Misma hefyd, a Dumah, a Massa,
15Hadar, a Themah, Jetur, Nephis, a Chedemah.
16Dyma hwy meibion Ismael, a dyma eu henwau hwynt wrth eu trefydd, ac wrth eu cestyll: yn ddeuddeg o dywysogion yn ol eu cenhedloedd.
17A dyma flynyddoedd einioes Ismael; càn mlynedd a dwy ar bymtheg ar hugain o flynyddoedd: yna y trengodd, ac y bu farw, ac y casglwyd ef at ei bobl.
18Preswyliasant hefyd o Hafilah hyd Sur, yr hon sydd o flaen yr Aipht, ffordd yr âi di i Assyria: ac y’ngŵydd ei holl frodyr y bu efe farw.
19¶ A dyma genhedlaethau Isaac fab Abraham: Abraham a genhedlodd Isaac.
20Ac Isaac oedd fab deugain mlwydd pan gymmerodd efe Rebeca ferch Bethuel y Syriad, o Mesopotamia, chwaer Laban y Syriad, yn wraig iddo.
21Ac Isaac a weddïodd ar yr Arglwydd dros ei wraig, am ei bod hi yn amhlantadwy, a’r Arglwydd a wrandawodd arno ef, a Rebeccah ei wraig ef a feichiogodd.
22A’r plant a ymwthiasant â’u gilydd yn ei chroth hi: yna y dywedodd hi, Os felly, beth a wnaf fi fel hyn? A hi a aeth i ymofyn â’r Arglwydd.
23A’r Arglwydd a ddywedodd wrthi hi, Dwy genedl sydd yn dy groth di, a dau fath ar bobl a wahenir o’th fru di; a’r naill bobl fydd cryfach na’r llall, a’r hynaf a wasanaetha’r ieuangaf.
24¶ A phan gyflawnwyd ei dyddiau hi i esgor, wele, gefeilliaid oedd yn ei chroth hi.
25A’r cyntaf a ddaeth allan yn goch drosto i gyd fel cochl flewog: a galwasant ei enw ef Esau.
26Ac wedi hynny y daeth ei frawd ef allan, a’i law yn ymaflyd yn sawdl Esau: a galwyd ei enw ef Jacob. Ac Isaac oedd fab tri ugeinmlwydd pan anwyd hwynt.
27A’r llangciau a gynnyddasant: ac Esau oedd wr yn medru hela, a gwr o’r maes, a Jacob oedd wr disyml, yn cyfanneddu mewn pebyll.
28Isaac hefyd oedd hoff ganddo Esau, am ei fod yn bwytta o’i helwriaeth ef: a Rebecca a hoffai Jacob.
29¶ A Jacob a ferwodd gawl: yna Esau a ddaeth o’r maes, ac efe yn ddiffygiol.
30A dywedodd Esau wrth Jacob, Gâd i mi yfed, attolwg, o’r cawl coch yma; o herwydd diffygiol wyf fi: am hynny y galwyd ei enw ef Edom.
31A dywedodd Jacob, Gwerth di heddyw i mi dy enedigaeth-fraint.
32A dywedodd Esau, Wele fi yn myned i farw, a pha lês a wna yr enedigaeth-fraint hon i mi?
33A dywedodd Jacob, Twng i mi heddyw. Ac efe a dyngodd iddo; ac efe a werthodd ei enedigaeth-fraint i Jacob.
34A Jacob a roddes i Esau fara a chawl ffacbys, ac efe a fwyttaodd, ac a yfodd, ac a gododd, ac a aeth ymaith: felly y dïystyrodd Esau ei enedigaeth-fraint.