Llyfr Genesis 26:28
Yna y dywedasant, Gan weled ni a welsom fod yr Arglwydd gyd â thi: a dywedasom, Bydded yn awr gynghrair rhyngom ni, sef rhyngom ni a thi; a gwnawn gyfammod â thi;
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 21:23Yn awr gan hynny, twng wrthyf fi yma i Dduw, na fyddi anffyddlawn i mi, nac i’m mab, nac i’m hŵyr: yn ol y drugaredd a wneuthum â thi y gwnei di â minnau, ac â’r wlad yr ymdeithiaist ynddi.
Genesis 24:3A mi a baraf i ti dyngu i Arglwydd Dduw y nefoedd, a Duw y ddaear, na chymmerech wraig i’m mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu mysg.
Genesis 31:44Tyred gan hynny yn awr, gwnawn gyfammod, mi a thi; a bydded yn dystiolaeth rhyngof fi a thithau.
Genesis 39:5Ac er pan wnaethai efe ef yn olygwr ar ei dŷ, ac ar yr hyn oll oedd eiddo, bu i’r Arglwydd fendithio tŷ yr Aiphtiad, er mwyn Joseph: ac yr oedd bendith yr Arglwydd ar yr hyn oll oedd eiddo ef, yn y tŷ, ac yn y maes.
1 Samuel 18:28A Saul a welodd ac a wybu fod yr ARGLWYDD gyda Dafydd, a bod Michal merch Saul yn ei garu ef. º
2 Chronicles 15:9Ac efe a gynullodd holl Jwda, a Benjamin, a’r dieithriaid gyda hwynt, o Effraim a Manasse, ac o Simeon: canys. hwy a syrthiasant ato ef yn arni o Israel, pan welsant fod yr ARGLWYDD ei DDUW gydag ef.