Llyfr Genesis 26:29
Na wnei i ni ddrwg, megis na chyffyrddasom ninnau â thi, a megis y gwnaethom ddaioni yn unig â thi, ac y’th anfonasom mewn heddwch; ti yn awr wyt fendigedig yr Arglwydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
30Ac efe a wnaeth iddynt wledd; a hwy a fwyttasant ac a yfasant.
Cross References
Genesis 12:3Bendithiaf hefyd dy fendithwyr, a’th felldithwyr a felldigaf: a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti.
Genesis 22:17Mai gan fendithio y’th fendithiaf, a chan amlhâu yr amlhâf dy had, fel sêr y nefoedd, ac fel y tywod yr hwn sydd ar làn y môr; a’th had a feddianna borth ei elynion;
Genesis 26:11A gorchymynnodd Abimelech i’r holl bobl, gan ddywedyd, Yr hwn a gyffyrddo â’r gwr hwn, neu â’i wraig, a leddir yn farw.