Llyfr Genesis 26
1Gwragedd Esau. A bu newyn yn y tir, heb law y newyn cyntaf a fuasai yn nyddiau Abraham: ac Isaac a aeth at Abimelech brenhin y Philistiaid i Gerar.
2A’r Arglwydd a ymddangosasai iddo ef, ac a ddywedasai, Na ddos i waered i’r Aipht: aros yn y wlad a ddywedwyf fi wrthyt.
3Ymdeithia yn y wlad hon, a mi a fyddaf gyd â thi, ac a’th fendithiaf; o herwydd i ti ac i’th had y rhoddaf yr holl wledydd hyn, a mi a gyflawnaf fy llw a dyngais wrth Abraham dy dad di.
4A mi a amlhâf dy had di fel sêr y nefoedd, a rhoddaf i’th had di yr holl wledydd hyn: a holl genhedlaethau y ddaear a fendithir yn dy had di:
5Am wrandaw o Abraham ar fy llais i, a chadw fy nghadwriaeth, fy ngorchymynion, fy neddfau, a’m cyfreithiau.
6¶ Ac Isaac a drigodd yn Gerar.
7A gwŷr y lle hwnnw a ymofynasant am ei wraig ef. Ac efe a ddywedodd, Fy chwaer yw hi; canys ofnodd ddywedyd, Fy ngwraig yw; rhag ( eb efe) i ddynion y lle hwnnw fy lladd i am Rebeccah: canys yr ydoedd hi yn dêg yr olwg.
8A bu, gwedi ei fod ef yno ddyddiau lawer, i Abimelech brenhin y Philistiaid edrych trwy y ffenestr, a chanfod; ac wele Isaac yn chwarae â Rebeccah ei wraig.
9Ac Abimelech a alwodd ar Isaac, ac a ddywedodd, Wele, yn ddïau dy wraig yw hi: a phaham y dywedaist, Fy chwaer yw hi? Yna y dywedodd Isaac wrtho, Am ddywedyd o honof, Rhag fy marw o’i phlegid hi.
10A dywedodd Abimelech, Paham y gwnaethost hyn â ni? hawdd y gallasai un o’r bobl orwedd gyd â’th wraig di; felly y dygasit arnom ni bechod.
11A gorchymynnodd Abimelech i’r holl bobl, gan ddywedyd, Yr hwn a gyffyrddo â’r gwr hwn, neu â’i wraig, a leddir yn farw.
12Ac Isaac a hauodd yn y tir hwnnw, ac a gafodd y flwyddyn honno y càn cymmaint. A’r Arglwydd a’i bendithiodd ef.
13A’r gwr a gynnyddodd, ac a aeth rhagddo, ac a dyfodd hyd onid aeth yn fawr iawn.
14Ac yr oedd ganddo ef gyfoeth o ddefaid, a chyfoeth o wartheg, a gweision lawer: a’r Philistiaid a genfigennasant wrtho ef.
15A’r holl bydewau y rhai a gloddiasai gweision ei dad ef, yn nyddiau Abraham ei dad ef, y Philistiaid a’u cauasant hwy, ac a’u llanwasant â phridd.
16Ac Abimelech a ddywedodd wrth Isaac, Dos oddi wrthym ni: canys ti a aethost yn gryfach o lawer na nyni.
17¶ Ac Isaac a aeth oddi yno, ac a wersyllodd yn nyffryn Gerar, ac a breswyliodd yno.
18Ac Isaac eilwaith a gloddiodd y pydewau dwfr y rhai a gloddiasent yn nyddiau Abraham ei dad ef, ac a gauasai y Philistiaid wedi marw Abraham; ac a enwodd enwau arnynt, yn ol yr enwau a enwasai ei dad ef arnynt hwy.
19Gweision Isaac a gloddiasant hefyd yn y dyffryn, ac a gawsant yno ffynnon o ddwfr rhedegog.
20A bugeiliaid Gerar a ymrysonasant â bugeiliaid Isaac, gan ddywedyd, Y dwfr sydd eiddom ni. Yna efe a alwodd enw y ffynnon, Esec; o herwydd ymgynhennu o honynt âg ef.
21Cloddiasant hefyd bydew arall: ac ymrysonasant am hwnnw; ac efe a alwodd ei enw ef Sitnah.
22Ac efe a fudodd oddi yno, ac a gloddiodd bydew arall; ac nid ymrysonasant am hwnnw: ac efe a alwodd ei enw ef Rehoboth; ac a ddywedodd, Canys yn awr yr ehangodd yr Arglwydd arnom, a ni a ffrwythwn yn y tir.
23Ac efe a aeth i fynu oddi yno i Beer-seba.
24A’r Arglwydd a ymddangosodd iddo y noson honno, ac a ddywedodd, Myfi yw Duw Abraham dy dad ti: nac ofna; canys byddaf gyd â thi, ac a’th fendithiaf, ac a lïosogaf dy had er mwyn Abraham fy ngwas.
25Ac efe a adeiladodd yno allor, ac a alwodd ar enw yr Arglwydd; ac yno y gosododd efe ei babell: a gweision Isaac a gloddiasant yno bydew.
26¶ Yna y daeth Abimelech atto ef o Gerar, ac Ahuzzath ei gyfaill, a Phichol tywysog ei lu.
27Ac Isaac a ddywedodd wrthynt, Paham y daethoch chwi attaf fi; gan i chwi fy nghasâu, a’m gyrru oddi wrthych?
28Yna y dywedasant, Gan weled ni a welsom fod yr Arglwydd gyd â thi: a dywedasom, Bydded yn awr gynghrair rhyngom ni, sef rhyngom ni a thi; a gwnawn gyfammod â thi;
29Na wnei i ni ddrwg, megis na chyffyrddasom ninnau â thi, a megis y gwnaethom ddaioni yn unig â thi, ac y’th anfonasom mewn heddwch; ti yn awr wyt fendigedig yr Arglwydd.
30Ac efe a wnaeth iddynt wledd; a hwy a fwyttasant ac a yfasant.
31Yna y codasant yn fore, a hwy a dyngasant bob un i’w gilydd: ac Isaac a’u gollyngodd hwynt ymaith, a hwy a aethant oddi wrtho ef mewn heddwch.
32A’r dydd hwnnw y bu i weision Isaac ddyfod, a mynegi iddo ef o achos y pydew a gloddiasent; a dywedasant wrtho, Cawsom ddwfr.
33Ac efe a’i galwodd ef Seba: am hynny enw y ddinas yw Beer-seba hyd y dydd hwn.
34¶ Ac yr oedd Esau yn fab deugain mlwydd, ac efe a gymmerodd yn wraig, Judith ferch Beeri yr Hethiad, a Basemath ferch Elon yr Hethiad.
35A hwy oeddynt chwerwder yspryd i Isaac ac i Rebeccah.