Llyfr Genesis 27:28
A rhodded Duw i ti o wlith y nefoedd, ac o frasder y ddaear, ac amldra o ŷd a gwin:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 27:39Yna yr attebodd Isaac ei dad, ac a ddywedodd wrtho, Wele, ym mrasder y ddaear y bydd dy breswylfod, ac ym mysg gwlith y nefoedd oddi uchod;
Genesis 49:20¶ O Aser bras fydd ei fwyd ef, ac efe a rydd ddanteithion brenhinol.
Numbers 18:12Holl oreuon yr olew, a holl oreuon y gwin a’r ŷd, sef eu blaenffrwyth hwynt yr hwn a roddant i’r Arglwydd, i roddais i ti.
Deuteronomy 8:7Oblegid y mae yr Arglwydd dy Dduw yn dy ddwyn i mewn i wlad dda, i wlad afonydd dyfroedd, ffynhonnau, a dyfnderau yn tarddu allan yn y dyffryn, ac yn y mynydd;
Deuteronomy 32:2Fy athrawiaeth a ddefnyna fel gwlaw: fy ymadrodd a ddifera fel gwlith; fel gwlith-wlaw ar îr-wellt, ac fel cawodydd ar laswellt.
Deuteronomy 33:28Israel hefyd a drig ei hun yn ddïogel; ffynnon Jacob a fydd mewn tir ŷd a gwin; ei nefoedd hefyd a ddifera wlith.