Llyfr Genesis 28:15
Ac wele fi gyd â thi; ac mi a’th gadwaf pa le bynnag yr elych, ac a’th ddygaf drachefn i’r wlad hon: o herwydd ni’th adawaf, hyd oni wnelwyf yr hyn a leferais wrthyt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
16¶ A Jacob a ddeffrôdd o’i gwsg; ac a ddywedodd, Dïau fod yr Arglwydd yn y lle hwn, ac nis gwyddwn i.
Cross References
Genesis 26:24A’r Arglwydd a ymddangosodd iddo y noson honno, ac a ddywedodd, Myfi yw Duw Abraham dy dad ti: nac ofna; canys byddaf gyd â thi, ac a’th fendithiaf, ac a lïosogaf dy had er mwyn Abraham fy ngwas.
Genesis 30:25¶ A bu, wedi esgor o Rahel ar Joseph, ddywedyd o Jacob wrth Laban, Gollwng fi ymaith, fel yr elwyf i’m bro, ac i’m gwlad fy hun.
Genesis 32:9¶ A dywedodd Jacob, O Dduw fy nhad Abraham, a Duw fy nhad Isaac, O Arglwydd, yr hwn a ddywedaist wrthyf, Dychwel i’th wlad, ac at dy genedl, a mi a wnaf ddaioni i ti!
Genesis 35:6¶ A Jacob a ddaeth i Luz, yng ngwlad Canaan, hon yw Bethel, efe a’r holl bobl y rhai oedd gyd âg ef;
Genesis 39:21¶ Ond yr Arglwydd oedd gyd â Joseph, ac a ddangosodd iddo ef drugaredd, ac a roddes ffafr iddo y’ngolwg pennaeth y carchardy.
Genesis 48:16Yr angel yr hwn a’m gwaredodd oddi wrth bob drwg, a fendithio’r llangciau; fy enw hefyd, ac enw fy nhadau Abraham ac Isaac, a alwer arnynt: heigiant hefyd yn llïaws y’nghanol y wlad.