Llyfr Genesis 28
1Adduned Jacob. Yna y galwodd Isaac ar Jacob, ac a’i bendithiodd ef: efe a orchymynnodd iddo hefyd, ac a ddywedodd wrtho, Na chymmer wraig o ferched Canaan.
2Cyfod, dos i Mesopotamia, i dŷ Bethuel tad dy fam; a chymmer i ti wraig oddi yno, o ferched Laban brawd dy fam:
3A Duw Hollalluog a’th fendithio, ac a’th ffrwythlono, ac a’th lïosogo, fel y byddech yn gynnulleidfa pobloedd:
4Ac a roddo i ti fendith Abraham, i ti ac i’th had gyd â thi, i etifeddu ohonot dir dy ymdaith, yr hwn a roddodd Duw i Abraham.
5Felly Isaac a anfonodd ymaith Jacob, ac efe a aeth i Mesopotamia, at Laban fab Bethuel y Syriad, brawd Rebeca, mam Jacob ac Esau.
6¶ Pan welodd Esau fendithio o Isaac Jacob, a’i anfon ef i Mesopotamia, i gymmeryd iddo wraig oddi yno, a gorchymyn iddo wrth ei fendithio, gan ddywedyd, Na chymmer wraig o ferched Canaan;
7A gwrandaw o Jacob ar ei dad, ac ar ei fam, a’i fyned i Mesopotamia;
8Ac Esau yn gweled mai drwg oedd merched Canaan y’ngolwg Isaac ei dad;
9Yna Esau a aeth at Ismael, ac gymmerodd Mahalath merch Ismael mab Abraham, chwaer Nebaioth, yn wraig iddo, at ei wragedd eraill.
10¶ A Jacob a aeth allan o Beer-seba ac a aeth tu a Haran.
11Ac a ddaeth ar ddamwain i fangre, ac a lettŷodd yno dros nos; oblegid machludo yr haul: ac efe a gymmerth o gerrig y lle hwnnw, ac a osododd dan ei ben, ac a gysgodd yn y fan honno.
12Ac efe a freuddwydiodd; ac wele ysgol yn sefyll ar y ddaear, a’i phen yn cyrhaeddyd i’r nefoedd: ac wele angelion Duw yn dringo ac yn disgyn ar hyd-ddi.
13Ac wele yr Arglwydd yn sefyll arni: ac efe a ddywedodd, Myfi yw Arglwydd Dduw Abraham dy dad, a Duw Isaac; y tir yr wyt ti yn gorwedd arno, i ti y rhoddaf ef, ac i’th had.
14A’th had di fydd fel llwch y ddaear; a thi a dorri allan i’r gorllewin, ac i’r dwyrain, ac i’r gogledd, ac i’r dehau: a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti, ac yn dy had di.
15Ac wele fi gyd â thi; ac mi a’th gadwaf pa le bynnag yr elych, ac a’th ddygaf drachefn i’r wlad hon: o herwydd ni’th adawaf, hyd oni wnelwyf yr hyn a leferais wrthyt.
16¶ A Jacob a ddeffrôdd o’i gwsg; ac a ddywedodd, Dïau fod yr Arglwydd yn y lle hwn, ac nis gwyddwn i.
17Ac efe a ofnodd, ac a ddywedodd, Mor ofnadwy yw y lle hwn! nid oes yma onid tŷ i Dduw, a dyma borth y nefoedd.
18A Jacob a gyfododd yn fore, ac a gymmerth y garreg a osodasai efe dan ei ben, ac efe a’i gosododd hi yn golofn, ac a dywalltodd olew ar ei phen hi.
19Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw, Bethel: ond Luz fuasai enw y ddinas o’r cyntaf.
20Yna yr addunodd Jacob adduned, gan ddywedyd, Os Duw fydd gyd â myfi, ac a’m ceidw yn y ffordd yma, yr hon yr ydwyf yn ei cherdded, a rhoddi i mi fara i’w fwytta, a dillad i’w gwisgo,
21A dychwelyd o honof mewn heddwch i dŷ fy nhad; yna y bydd yr Arglwydd yn Dduw i mi.
22A’r garreg yma, yr hon a osodais yn golofn, a fydd yn dŷ Dduw; ac o’r hyn oll a roddech i mi gan ddegymu mi a’i degymmaf i ti.