Llyfr Genesis 9:1
ac yn marw. Duw hefyd a fendithiodd Noah a’i feibion, ac a ddywedodd wrthynt, Ffrwythwch a llïosogwch, a llenwch y ddaear.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 1:28Duw hefyd a’u bendigodd hwynt, a Duw a ddywedodd wrthynt, Ffrwythwch, ac amlhêwch, a llenwch y ddaear, a darostyngwch hi; ac arglwyddiaethwch ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar bob peth byw a ymsymmudo ar y ddaear.
Genesis 8:17Pob peth byw a’r sydd gyd â thi, o bob cnawd, yn adar, ac yn anifeiliad, ac yn bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, a ddygi allan gyd â thi: heppiliant hwythau yn y ddaear, a ffrwythant ac amlhânt ar y ddaear.
Genesis 9:19Y tri hyn oedd feibion Noah: ac o’r rhai hyn yr hiliwyd yr holl ddaear.
Genesis 24:60Ac a fendithiasant Rebeccah, ac a ddywedasant wrthi, Ein chwaer wyt, bydd di fil fyrddiwn; ac etifedded dy had borth ei gaseion.
Psalms 128:3Wele, plant ydynt etifeddiaeth yr ARGLWYDD: ei wobr ef yw ffrwyth y groth.