Llyfr Genesis 37:7
Ac wele, rhwymo ysgubau yr oeddym ni y’nghanol y maes; ac wele; fy ysgub i a gyfododd, ac a safodd hefyd; ac wele, eich ysgubau chwi a safasant o amgylch, ac a ymgrymmasant i’m hysgub i.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
6Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandêwch, attolwg, y breuddwyd hwn a freuddwydiais i.
Cross References
Genesis 42:6A Joseph oedd lywydd ar y wlad, ac oedd ei hun yn gwerthu i holl bobl y wlad: a brodyr Joseph a ddaethant, ac a ymgrymmasant i lawr iddo ef ar eu hwynebau.
Genesis 43:26¶ Pan ddaeth Joseph i’r tŷ, hwythau a ddygasant iddo ef yr anrheg oedd ganddynt i’r tŷ, ac a ymgrymmasant iddo ef hyd lawr.
Genesis 44:14¶ A daeth Judah a’i frodyr i dŷ Joseph, ac efe etto yno; ac a syrthiasant i lawr ger ei fron ef.
Genesis 50:18A’i frodyr a ddaethant hefyd, ac a syrthiasant ger ei fron ef, ac a ddywedasant, Wele ni yn weision i ti.
Colossians 1:18Ac efe yw pen corff yr eglwys; efe, yr hwn yw'r dechreuad, y cyntaf-anedig oddi wrth y meirw; fel y byddai efe yn blaenori ym mhob peth.