Llyfr Genesis 42:6
A Joseph oedd lywydd ar y wlad, ac oedd ei hun yn gwerthu i holl bobl y wlad: a brodyr Joseph a ddaethant, ac a ymgrymmasant i lawr iddo ef ar eu hwynebau.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 19:1Godinebus fonedd Moab ac Ammon. A dau angel a ddaeth i Sodom yn yr hwyr, a Lot yn eistedd ym mhorth Sodom: a phan welodd Lot, efe a gyfododd i’w cyfarfod hwynt, ac a ymgrymmodd a’i wyneb tu a’r ddaear;
Genesis 37:9¶ Hefyd efe a freuddwydiodd etto freuddwyd arall, ac a’i mynegodd i’w frodyr, ac a ddywedodd, Wele, breuddwydiais freuddwyd etto; ac wele, yr haul, a’r lleuad, a’r un seren ar ddeg, yn ymgrymmu i mi.
Genesis 41:54A’r saith mlynedd newyn a ddechreuasant ddyfod, fel y dywedasai Joseph: ac yr oedd newyn yn yr holl wledydd; ond yn holl wlad yr Aipht yr ydoedd bara.
Genesis 41:56Y newyn hefyd ydoedd ar holl wyneb y ddaear: a Joseph a agorodd yr holl leoedd yr ydoedd ŷd ynddynt, ac a werthodd i’r Aiphtiaid; oblegid y newyn oedd drwm y’ngwlad yr Aipht.
Genesis 44:14¶ A daeth Judah a’i frodyr i dŷ Joseph, ac efe etto yno; ac a syrthiasant i lawr ger ei fron ef.
Genesis 45:26Ac a fynegasant iddo, gan ddywedyd, Y mae Joseph etto yn fyw, ac y mae yn llywodraethu ar holl wlad yr Aipht. Yna y llesgaodd ei galon yntau; oblegid nid oedd yn eu credu.